Mae’r Heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Llandudno nos Sadwrn, 5 Tachwedd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 8.20pm ddydd Sadwrn ar B5115 Craigside, Llandudno rhwng Seat Ibiza lliw arian a Ford Fiesta lliw porffor tywyll.

Cafodd gyrrwr 35 oed y Seat ei gludo i’r ysbyty. Roedd yn dioddef o anafiadau i’w ben ac mae’n dal yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Cafodd gyrrwr y Fiesta fân anafiadau.

Mae ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad yn parhau ac mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â’r heddlu yn Llanelwy ar 101 (os yng Nghymru) neu 0845 607 1001 (Llinell Gymraeg).