Mae ditectifs ym Mangor yn apelio am dystion ar ôl i dri dyn ifanc ddioddef lladrad yn y dref.

Am 11.30pm ddydd Llun, Hydref 17, roedd tri dyn ifanc yn cerdded adref i lawr Allt Glanrafon ym Mangor pan redodd tri dyn arall y tu ôl iddyn nhw a’u gwthio gan weiddi arnyn nhw.

Roedd y dynion wedi mynnu bod y gwŷr ifanc yn rhoi eu bagiau, a oedd yn cynnwys alcohol, iddyn nhw. Roedd y tri wedi gwrthod gwneud hynny i gychwyn, ond ar ôl cael eu bygwth fe wnaethon nhw roi’r bagiau i’r lladron. Fe redodd y troseddwyr i ffwrdd i lawr Allt Glanrafon. Chafodd neb eu hanafu.

“Mae ein hymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau  ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn y cyffiniau adeg y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth.  Gall unrhyw un a allai ein cynorthwyo gysylltu â CID Bangor ar 101 (o Gymru) NEU O845 607 1001 (llinell Gymraeg).”

Fel arall, mae modd ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.