Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar ôl nifer o ddigwyddiadau sy’n cynnwys ffrwydron mewn blychau post yn ardal Llanbed.

Mae pum blwch post gwledig wedi’u dinistrio gan ddyfeision ffrwydrol. Mae’r ffrwydron wedi dinistrio’r post y tu mewn a’r blwch post ei hun.

Yn ôl yr Heddlu, mae gweithgarwch o’r fath yn dangos “diystyrwch llwyr” i ddiogelwch y cyhoedd a’r post brenhinol.

Mae gan ffrwydron o’r fath y potensial i achosi anafiadau difrifol i gerddwyr sy’n pasio yn ogystal â difrod i geir, meddai’r Heddlu.

Maen nhw’n galw ar y cyhoedd i fod yn “wyliadwrus” ac i adrodd unrhyw beth amheus i’r heddlu i’w cynorthwyo gyda’u hymchwiliad.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu am weithgarwch amheus gysylltu gyda’r heddlu ar 101 neu gyda Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.