Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio pobol sy’n byw yng nghefn gwlad i fod yn wyliadwrus wedi i 150 o ddefaid ddiflannu o fferm yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y defaid eu dwyn oddi ar fferm Hugh Davies, 67, a’i wraig Mary, sy’n ffermio ar y Mynydd Du ger Brynaman, wedi iddyn nhw fynd i gasglu’r ddiadell o 1,000 o ddefaid oddi ar y mynydd ddiwedd Hydref eleni.

Mae gwobr o £5,000 yn cael ei gynnig i unrhyw un sy’n gallu helpu i ddod o hyd i’r defaid neu erlyn y lladron.

Yn ôl Hugh Davies, mae’n amau fod y lladron yn brofiadol wrth hel defaid.

“Er mwyn cael y defaid oddi ar y mynydd mae angen cŵn da iawn arnoch chi, a dwi’n amau fod rhywun digon profiadol wedi bod yn ein gwylio ni yn eitha’ manwl.”

Yn ôl y ffermwr, mae colli 30-40 o ddefaid bob blwyddyn yn beth cyffredin, ac mae’n digwydd yn rheolaidd iddo ef a’i gymdogion. “Ond does dim byd o’r raddfa yma erioed wedi digwydd i ni o’r blaen,” meddai.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i ddiflaniad 150 o ddefaid o’r Mynydd Du rhwng Brynaman Uchaf a Gwynfe rhwng diwedd Mai a 25 Hydref 2011.

Mae union adeg y lladrad yn anodd ei benodi oherwydd y dirwedd a’r cyfnod hir sy’n mynd rhwng gadael y defaid allan ar y mynydd a’u hôl yn ôl.

“Mae hi yn bosib atal troseddau fel hyn, ond maen rhaid i’r ffermwyr, yr heddlu, a’r cymunedau gwledig ehangach i weithio gyda’i gilydd er mwyn eu taclo,” meddai’r Rhingyll Matthew Howells, sy’n cynrychioli’r heddlu ar faterion gwledig.

“Os gallwn ni weithio gyda’r gymuned amaethyddol er mwyn sefydlu cynllun gwarchod ffermydd, fel sydd eisoes wedi ei dreialu yng ngogledd Ceredigion, gobeithio y byddwn ni ar y trywydd iawn er mwyn datrys  troseddu gwledig.”

Yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, mae dwyn defaid yn broblem gynyddol i ffermwyr Cymru. Datgelodd arolwg gan yr undeb yn 204 fod miloedd o ddefaid yn cael eu dwyn o ffermydd Cymru ar hyd y flwyddyn.

Y pryder yw bod nifer o’r anifeiliaid yma wedyn yn cael eu cludo i ladd-dai heb drwydded ac yn cael eu lladd yn anghyfreithlon.

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog pawb i fod yn wyliadwrus o unrhyw weithgareddau amheus yng nghefn gwlad Cymru, ac i ddefnyddio’r camerau ar eu ffonau mewn ymgais i helpu’r heddlu ddal y lladron,” meddai Emyr Jones.