Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Papur Gwyn ar gyflwyno system newydd o roi organau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd heddiw.

Bydd y Papur Gwyn yn trafod y cynlluniau i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i bobol nodi os nad ydyn nhw’n dymuno rhoi eu horganau wedi iddyn nhw farw – yn hytrach na’r system bresennol lle mae’n rhaid i bobol nodi ar gofrestr os ydyn nhw’n dymuno rhoi organau.

Bydd y lansiad yn cael ei gynnal yn yr Uned Drawsblaniadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn cyfarfod â phobol sydd angen organau newydd ar hyn o bryd.

Cymru fyddai’r wlad gyntaf i gyflwyno’r fath system, sydd wedi ei fwriadu i gynyddu nifer yr organau a thusw sy’n cael eu rhoi, os yw’r ddeddf yn cael ei derbyn.

Mae Sefydliad Arennau Cymru wedi croesawu’r Papur Gwyn, gan ddweud mai “prinder organau yw’r ffactor sy’n cyfyngu mwyaf ar allu cleifion i fanteisio ar drawsblaniad.”

Yn ôl Roy Thomas, Cadeirydd Sefydliad Arennau Cymru, mae’r Papur Gwyn yn “gam ymlaen i Gymru”.

“Mae gan Brydain un o’r cyfraddau isaf o roi organau yn Ewrop. Fe fydd Cymru yn cymryd yr awenau ac yn dangos fod yn rhaid i ni gael trafodaeth ar y mater pwysig yma.”

‘Croesawu’

Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r ymgyngoriad. Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC: “Mae Plaid Cymru yn croesawu’r symud hwn tuag at system o ragdybio cydsyniad. Mae mwy a mwy o bobl yn aros am drawsblaniadau bob blwyddyn, ac fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn marw ar y rhestr aros, a buasai’n anghywir peidio â gweithredu.

“Fe wyddom o astudiaethau a phrofiad uniongyrchol fod llawer o bobl fyddai’n hoffi rhoi organau ond heb gofrestru i wneud hynny. Bydd symud at system o optio allan yn gofalu bod nifer y bobl sy’n rhoi yn cynyddu ac na chollir mwy o fywydau yn ddiangen. Nid yw’r system yn dwyn  hawl yr unigolyn i benderfynu – os nad yw rhywun am roi organau, gall ddewis peidio.

“Mae’r mater hwn yn amlwg yn un sy’n peri dadl, felly dyna pam fod dadl lawn ac agored yn gyhoeddus yn bwysig, a pham fod angen ymgynghori.”

Ond mae rhai, gan gynnwys Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies, wedi codi pryderon y gallai system sy’n rhagdybio caniatad danseilio ffydd pobol yn y gwasanaeth iechyd, ac yn arbennig mewn doctoriaid.