Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i bâr priod o Gasnewydd oedd ymhlith saith o bobl gafodd eu lladd mewn damwain ar draffordd yr M5 yng Ngwlad yr Haf nos Wener.

Mae’n debyg bod Anthony a Pamela Adams  ar eu ffordd adref ar ôl bod yn gweld eu merch Tonia White sy’n byw yn Taunton.

Ddoe, fe fu’r gynulleidfa yn Eglwys St Marc yn y ddinas yn gweddio dros y  cwpl a  oedd yn addolwyr cyson yno. Roedd y Parchedig Andrew Willie wedi dweud wrth y gynulleidfa am farwolaeth y cwpl. Dywedodd bod Anthony a Pamela Adams  yn weithgar iawn yn yr eglwys ac y byddai “colled mawr” ar eu hôl.

Dywedodd un o gymdogion a ffrind y cwpl, Doreen Martin, 88, bod y pâr yn eu saithdegau a bod ganddyn nhw deulu mawr o blant a wyrion. “Mae’n gymaint o sioc,” meddai. “Roedden nhw’n gwpl hyfryd.”

Mae cwmni Ginsters o Swydd Gaerlŷr hefyd wedi cyhoeddi bod dau o’u gweithwyr ymhlith y rhai fu farw a bod un arall wedi ei anafu. Cafodd 51 o bobol eu hanafu yn un o’r damweiniau gwaethaf ar draffordd yn hanes gwledydd Prydain.

Ymchwiliad

Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi agor ymchwiliad troseddol i’r ddamwain ar yr M5.

Mae’r heddlu’n canolbwynio ar ddigwyddiad tân gwyllt mewn clwb rygbi yn agos i’r safle – mae na awgrym bod mwg trwchus o’r arddangosfa  tân gwyllt wedi symud tuag at draffordd yr M5 gan achosi i 34 o gerbydau fod mewn gwrthdrawiad â’u gilydd. Roedd y tywydd hefyd yn arw iawn ar y pryd gyda niwl trwchus a glaw trwm.

Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau enwau’r rhai a laddwyd na’r rhai gafodd eu hanafu yn y ddamwain ond mae nhw wedi cyhoeddi nad oedd rhagor o gyrff yng ngweddillion y ceir a’r loriau.

Traffordd yn ail-agor

Dywedodd  y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Anthony Bangham o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf: “Rydym yn gweithio’n galed i adnabod y rhai laddwyd ac fe fydd swyddogion cyswllt yn cael eu penodi ar gyfer y teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn y ddamwain. Fe fydd y cyrff yn cael eu hadnabod yn ffurfiol yn ystod y dyddiau nesaf,” meddai.

Cafodd y  draffordd ei hail-agor nos Sul.