Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gwario bron i dri chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn ar weinyddwyr y diddymwyd eu swyddi yn ystod ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yn 2009, yn ôl rhaglen BBC Radio Cymru heddiw.

Bydd y newyddion yn cael ei gyhoeddi ar y rhaglen materion cyfoes Manylu heno yn dilyn cais gan y rhaglen o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Yn ystod ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yn 2009, cafodd saith Ymddiriedolaeth GIC a 22 bwrdd iechyd lleol eu huno i greu saith bwrdd iechyd wedi eu hintegreiddio. Y bwriad oedd cwtogi ar fiwrocratiaeth yn y system. Ond, yn ôl gwybodaeth a  gasglwyd gan Manylu, cafodd tua 120 o reolwyr a gollodd eu swyddi eu cadw mewn gwaith a chafodd eu cyflogau eu diogelu.

Mae ffigyrau gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn dangos bod cyflogau wedi eu diogelu gan 52 rheolwr ar gyflog uwch na £40,000 a bod 40 yn ennill dros £50,000 a 24 dros £80,000.

‘Brawychu’

Mae’r cyfanswm diogelu cyflogau yn costio tua thri chwarter miliwn o bunnoedd i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, swm sy’n annerbyniol yn ôl AC Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd.

“Rwy wedi cael fy mrawychu o glywed y ffigyrau yma,” meddai Llŷr Huws Gruffydd o Blaid Cymru ar y rhaglen.

“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’r byrddau iechyd lleol yn wynebu toriadau ac mae’n rhaid i bob ceiniog o’r arian weithio. Mae’r ffaith bod dros hanner miliwn o bunnau yn cael ei wario ar bobl sydd ddim mewn swyddi ystyrlon yn codi gwallt fy mhen,” meddai.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru roedd diogelu cyflog yn un o’r pynciau a gytunwyd rhwng y gwasanaeth iechyd a’r undebau cyn ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd yn 2009.

Yn ôl eu datganiad mae’r polisi yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan fforwm sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’r Llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd a’r Undebau. Ond mae gweithwyr meddygol sy’n dweud eu bod yn gweithio o dan bwysau cynyddol yn galw am i’r Gweinidog Iechyd adolygu’r polisi o ddiogelu cyflogau yn wyneb y toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.