Fe fydd dynion hoyw yn cael rhoi gwaed heddiw wrth i’r Llywodraeth godi’r gwaharddiad oes arferai fodoli, meddai Adran Iechyd y Llywodraeth.

Cafodd dynion oedd wedi cael rhyw â dynion eu gwahardd rhag rhoi gwaed ym Mhrydain yn yr 1980au, oherwydd pryderon am ledaenu Aids a HIV.

Cwblhaodd arbenigwyr o’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ddiogelwch Gwaed, Meinwe ac Organau (Sabto) adolygiad o’r gwaharddiad yn gynharach eleni.

Fe fydd dynion hoyw sydd heb gael rhyw geneuol gyda dyn ers blwyddyn yn cael rhoi gwaed os ydyn nhw’n bodloni meini prawf. Ni fydd dynion sydd wedi cael rhyw rhefrol neu geneuol gyda dyn arall yn y 12 mis diwethaf, gyda neu heb gondom yn gymwys i roi gwaed, dywedodd yr Adran Iechyd.

Fe gafodd yr argymhelliad ei dderbyn gan weinidogion iechyd yn Lloegr, Alban a Chymru ac fe fydd y gwaharddiad yn cael ei godi heddiw, 7 Tachwedd.

Gofyn ‘yr un cwestiwn’

Er bod y newidiadau’n “gam yn y cyfeiriad cywir” , eisoes, mae mudiad hawliau hoyw Stonewall Cymru eisoes wedi dweud wrth Golwg360 y dylid gofyn “i bawb sydd am roi gwaed yr un cwestiynau – beth bynnag yw eu cyfeiriadedd rhywiol”.

“Mae’n rhaid parhau i roi’r pwyslais ar ddiogelwch. Fodd bynnag, ar adeg o brinder gwaed cenedlaethol, dylai pawb all roi gwaed heb unrhyw risg i dderbynwyr allu gwneud hynny,” meddai Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White, wrth Golwg360 fis Medi pan gyhoeddwyd y newyddion.

“Mae gwaharddiad llwyr ar unrhyw ddyn sydd wedi cael rhyw gyda dyn arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, hyd yn oed os taw dim ond rhyw geneuol, yn anghymesur.

“Dylid gofyn i bawb sy’n rhoi gwaed am eu hymddygiad rhywiol a’u hasesu’n briodol. Fodd bynnag, dan y rheolau newydd, bydd dyn hoyw mewn perthynas gydag un dyn arall sydd wedi cael rhyw geneuol yn unig yn cael ei wahardd yn awtomatig, ond ni fydd dyn heterorywiol sydd wedi cael partneriaid lluosog heb wisgo condom yn cael ei holi am ei ymddygiad, na’u heithrio,” meddai.

‘Cyflenwad diogel’

Yn ôl Dr Lorna Williamson, Cyfarwyddwr ymchwil Gwaed a Thrawsblaniad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mai’r “flaenoriaeth o ran gwasanaeth gwaed yw darparu cyflenwad diogel a digonol i gleifion.”

Fe ddywedodd y byddai’r newid yn rhoi cyfle i dderbyn mwy o roddwyr gwaed.

Mae elusen iechyd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi croesawu’r newyddion.

“Rydan ni’n croesawu’r newid hwn – sy’n seiliedig ar dystiolaeth mae arbenigwyr wedi cytuno arno,” meddai Syr Nick Partridge, Y Prif Weithredwr.