Mae’r heddlu wedi agor ymchwiliad troseddol i’r ddamwain ar yr M5 yng Ngwlad yr Haf nos Wener.

Cafodd saith o bobl eu lladd a 51 eu hanafu yn un o’r damweiniau gwaethaf ar drafodd yn hanes gwledydd Prydain.

Mae’r heddlu’n canolbwynio ar ddigwyddiad tân gwyllt mewn clwb rygbi yn agos i’r safle – mae na awgrym bod mwg trwchus o’r arddangosfa  tân gwyllt wedi symud tuag at draffordd yr M5 gan achosi i 34 o gerbydau i fod mewn gwrthdrawiad â’u gilydd. Roedd y tywydd hefyd yn arw iawn ar y pryd gyda niwl trwchus a glaw trwm.

Cwpl o Gasnewydd

Yn y cyfamser mae’n ymddangos bod cwpl oedrannus o Gasnewydd wedi bod ymhlith y rhai fu farw.

Yn ôl adroddiadau, roedd Anthony a Pamela Adams  ar eu ffordd adref ar ôl bod yn gweld eu merch Tonia White sy’n byw yn Taunton.

Ddoe, fe fu’r gynulleidfa yn Eglwys St Marc yn y ddinas yn gweddio dros y  cwpl a  oedd yn addolwyr cyson yno.

Dywedodd un o gymdogion y cwpl, Doreen Martin, 88, bod y pâr yn eu saithdegau. “Mae’n gymaint o sioc,” meddai. “Roedden nhw’n gwpl hyfryd.”

Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau enwau’r rhai a laddwyd na’r rhai gafodd eu hanafu yn y ddamwain ar yr M5 ond mae nhw wedi cyhoeddi nad oedd rhagor o gyrff yng ngweddillion y ceir a’r loriau.

Traffordd yn ail-agor

Cadarnhaodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Anthony Bangham o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod gweddillion yr oll o’r 34 cerbyd wedi cael eu symud o’r safle dros nos ac na ddaethpwyd o hyd i’r un corff arall.

“Rydym yn gweithio’n galed i adnabod y rhai laddwyd ac fe fydd swyddogion cyswllt yn cael eu penodi ar gyfer y teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn y ddamwain. Fe fydd y cyrff yn cael eu hadnabod yn ffurfiol yn ystod y dyddiau nesaf,” meddai.

Cafodd y  draffordd ei hail-agor neithiwr.