Y Senedd
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Papur Gwyn yr wythnos nesaf fydd yn gofyn i bobl nodi os nad ydyn nhw am gyfrannu eu horganau ar ôl marw, yn hytrach na nodi eu bod am i hyn ddigwydd trwy arwyddo cofrestr fel mae hi ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd wrth raglen y Politics Show ar BBC Wales y bydd yr awdurdodau yn tybio wedyn bod rhywun am gyfrannu ei organau ar ôl marw ond yn parhau i ymgynghori efo aelodau’r teulu.

Mae’r llywodraeth yn credu y bydd hyn yn cynyddu yn sylweddol nifer yr organau ar gael ar gyfer traswblannu gan ddilyn y patrwm mewn gwledydd eraill ble mae’r un drefn eisoes yn bodoli.

Bydd y Papur Gwyn gaiff ei gyhoeddi yr wythnos nesaf yn gosod amserlen ar gyfer troi’r argymhellion yn ddeddfwriaeth ond mae rhai yn poeni na fydd y drefn newydd yn gweithio.

Yn eu plith mae Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies, ac mae ef am godi’r mater yn San Steffan.

“Rydw’i eisiau treulio hanner awr yn egluro yn ofalus pam na wnaiff hyn weithio,”meddai. “Un o fy mhryderon ydi y bydd yn tanselio’r ymddiriedaeth sy’n rhan hanfodol o’r system bresennol.”

Mae Sefydliad Arennau Cymru ar y llaw arall yn credu y bydd nifer yr arennau ar gael dan y drefn newydd yn cynyddu 30%.

Dywedodd y Cadeirydd Roy Thomas, “Rydan ni’n colli un person yr wythnos yma yng Nghymru ac mae hynny’n nifer enfawr o bobl, mae’n rhaid i ni roi gobaith iddyn nhw.”