Athrawes 33 oed o Lannerchymedd fydd Llywydd nesaf Urdd Gobaith Cymru yn dilyn cyhoeddiad heddiw yng nghyfarfod Cyngor y mudiad.

Mae Eirian Jones yn wreiddiol o Lynfaes ac yn athrawes yn Ysgol Gynradd Rhosybol.

Mae wedi bod yn gysylltiedig efo’r mudiad es blynyddoedd gan gystadlu ei hun hyd nes yr oedd yn 24 oed, hyfforddi plant yn yr ysgol, stiwardio a gweithio’n wirfoddol fel Ysgrifennydd Cylch Cefni a Chylch Alaw/Cybi ar yr ynys. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor Rhanbarth yr Urdd yn Ynys Môn.

Un o atgofion gorau Eirian am ei chysylltiad gyda’r Urdd oedd nôl yn 2004 pan ddaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Ynys Môn.

“Fi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Ieuenctid, ac fe wnaethon ni godi dros £6,000 tuag at darged yr Eisteddfod. Roedd criw arbennig iawn ar y pwyllgor a dyma arweiniodd at sefydlu Aelwyd yr Ynys. Mae’r Aelwyd yn dal yn mynd o nerth i nerth heddiw.”

Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen yn arw i ymweld â Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2012 sydd yn cael ei chynnal ar draws y Fenai, yn weddol agos i’w chartref.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

“Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gydag Eirian, ac yn dymuno’n dda iddi dros y flwyddyn i ddod. Rwy’n falch ein bod yn gallu cydnabod cyfraniad rhai o’n harweinwyr ifanc yn y fath fodd.”