Ysbyty Treforus
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymddiheuo am safon y gofal gafodd gwraig 84 oed o  Sir Benfro ar ôl i gwest glywed ei bod wedi cael ei symud 17 gwaith mewn 19 wythnos.

Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol mewn cwêst yn Aberdaugleddau yn achos Mrs Marion John o Arberth. Dywedwyd yn wreiddiol ei bod wedi marw o niwmonia broncial ond roedd y teulu yn anghytuno.

Cynhaliwyd archwiliad post-mortem ar ei chorff a chanfod mai gwaedu o’r fan ble y cafodd law-driniaeth ar ei aorta achosodd ei marwolaeth go iawn, sef ymateb cyffredin i lawdriniaeth ar y galon gan rhwyun o’i hoed hi.

Dywedodd Ian Robertson-Steele, Cyfarwyddwr Gofal Clinigol yn Ysbyty Llwynhelyg bod y Bwrdd Iechyd “yn gofidio am y trallod achoswyd gan amgylchiadau’r achos yma ac yn ymddiheuro i deulu Mrs John”.

“Fe fyddwn yn ail-edrych ar yr achos yn dilyn y cwêst er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu unrhyw wersi angenrheidiol,” ychwanegodd.

Fe gafodd Mrs John lawdriniaeth yn Ysbyty Treforus yn Abertawe ym mis Ionawr 2010. Cafodd sawl haint ar ei brest wedyn a bu’n gwaedu’n fewnol o’r fan ble cafodd falf calon newydd. Fe wnaeth hi hefyd syrthio a thorri ei choes tra yn Nhreforus.

Yn ôl ei theulu cafodd Mrs John ei symud 17 gwaith rhwng cartrefi gofal a gwahanol ysbytai cyn ac ar ôl y llawdriniaeth ar ei chalon. Dywedodd ei merch Megan Busby sy’n gyn nyrs, bod safon y gofal gafodd yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd wedi bod yn warthus.

Wrth gofnodi ei ddyfarniad dywedodd y Crwner, Mark Layton, bod yr achos wedi codi pryderon am y cyfathrebu rhwng ysbytai Llwynhelyg a Threforys gan ychwanegu ei fod yn sicr y bydd y gwersi perthnasol yn cael eu dysgu.