Hunan-bortread Edward Owen
Mae hanesydd celf yn erfyn ar bobol Pen Llŷn i chwilota yn eu tai a’u cytiau am ddarluniau gan arlunwyr y fro.

Fe fydd croeso i bobol ddod draw i Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ar Dachwedd 26 gyda’u darluniau i’w dangos i’r hanesydd celf, Peter Lord.

Yn wahanol i’r gyfres deledu Antiques Roadshow, nid rhoi gwerth ariannol ar y lluniau yw bwriad y diwrnod, ond gallu dysgu rhagor am yr arlunwyr.

Mae Peter Lord wedi treulio dros chwarter canrif yn ymchwilio i waith arlunwyr o Gymru ac fe fydd yno ar y diwrnod i drafod y lluniau a’u cofnodi.

Bydd yn cyd-daro ag arddangosfa Arlunwyr Gwlad sydd yn yr oriel tan Ragfyr 24, sy’n cynnwys sawl llun gan arlunwyr gwerinol Cymreig fel Hugh Hughes a William Roos.

Mae tri llun gan arlunydd lleol, John Roberts o Lanystumdwy, yn yr arddangosfa ac mae’r hanesydd yn gobeithio y daw pobol â rhagor o’i waith i’r oriel.

“Mae yn gymeriad eithaf diddorol. Rydyn ni’n gwybod eithaf lot am ei hanes am fod un o’i gyfoedion – Myrddin Fardd a oedd yn gyfaill iddo – wedi sgrifennu amdano,” meddai Peter Lord.

“Y broblem â John Roberts yw nad yw’n torri ei lofnod ar ei luniau. Ar hyn o bryd, mae’n anodd priodoli lluniau iddo, gan nad ydyn ni’n gwybod digon am ei arddull. “Mae pwrpas ymchwil go iawn y tu ôl i’r arddangosfa, fel ein bod ni’n gallu adnabod ei luniau gyda mwy o sicrwydd nad ydyn ni’n gallu gwneud ar hyn o bryd.”

Mae Peter Lord wedi cyhoeddi cyfres o dri llyfr manwl ar hanes celf Cymru – Delweddu’r Genedl (2000), Y Gymru Ddiwydiannol (2001) a Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (2003).

Dros y blynyddoedd, mae wedi dod o hyd i sawl darlun o bwys gan artistiaid Cymreig mewn atigau a chytiau, ledled Cymru, Lloegr ac America. Yn eu plith, mae llun trawiadol o Gapten John Evans, Aberaeron, y daethpwyd o hyd iddo mewn cwt ieir yng Nghastell Newydd Emlyn rai blynyddoedd yn ôl.

Bydd yn arddangos ei ddarganfyddiad diweddaraf yng Nglyn y Weddw – sef hunan-bortread Edward Owen, Penrhos, y daethpwyd o hyd iddo yn Massachusetts rai misoedd nôl.

 * Arlunwyr Gwlad, Oriel Plas Glyn y Weddw, Tachwedd 12 – Rhagfyr 24

Ceir holl hanes difyr hunan-bortread Edward Owen yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.