Matt Jukes
Bydd un mewn wyth o bobl yng Nghymru yn dioddef o dwyll adnabyddiaeth eleni, yn ôl ffigurau sydd wedi’u datgelu heddiw yn Uwchgynhadledd e-Droseddd Cymru.

Mae lladrata adnabyddiaeth yn costio £38 biliwn y flwyddyn i economi’r DU,  a dyma’r math o drosedd sy’n tyfu gyflymaf yn yr 21 ganrif.

Roedd 520 o gynrychiolwyr yn yr Uwchgynhadledd  e-Drosedd Cymru yn Stadiwm Caerdydd heddiw ac yn bwrw golwg ar sut i gadw’u hunain yn ddiogel ar lein a bod yn siŵr eu bod nhw a’u cwsmeriaid yn cael eu diogelu rhag dwyll adnabyddiaeth.

Clywodd cynrychiolwyr mai’r rhai sy’n wynebu’r problemau mwyaf yw pobl rhwng 25 a 44 oed.  Y pum targed pennaf yw cyfarwyddwyr cwmnïau, graddedigion mewn swyddi da, pobl ifanc yn rhentu eu cartrefi, pobl mewn fflatiau canol y ddinas ar gyflog mawr, a phensiynwyr sydd wedi ymddeol gyda llawer o arian wrth gefn.

“Mae’r dirwasgiad economaidd, heb os, yn pwyso ar bobl ac yn eu gyrru i droseddu drwy ladrata adnabyddiaeth.  Mae’r dechnoleg newydd a chymaint o ddefnydd o rwydweithio cymdeithasol yn ei gwneud yn llawer iawn haws,” meddai  Rachel Knight, pennaeth gwasanaethau cwsmeriaid yn Experian a siaradwr yn Uwchgynhadledd e-Drosedd.

‘Bygythiad’

Mae defnyddio smartphones, gliniaduron a thabledi, a hefyd rhannu gormod o wybodaeth bersonol ar rwydweithiau cymdeithasol fel Trydar a Gweplyfr yn ei gwneud yn haws targedu grwpiau oedran ehangach.

“Mae’n rhaid i ni gofio y gall y rhain fod yn beryglus yn ogystal â bod yn ddefnyddiol,” meddai arbenigwyr yn yr uwch gynhadledd.

“Mae e-Drosedd yn her ac yn fygythiad sy’n datblygu’n barhaus. Fodd bynnag, mae gwaith gwerth chweil e-Drosedd Cymru’n golygu fod Cymru eisoes yn lle llawer diogelach i wneud busnes na llawer o fannau eraill,” meddai aelod newydd o grŵp llywio e-Drosedd Cymru Matt Jukes, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, agorodd yr Uwchgynhadledd.

“Pan gynhaliwyd yr Uwchgynhadledd e-Drosedd gyntaf yn 2005, ychydig ohonon ni oedd yn deall mewn gwirionedd beth yn union oedd e-Drosedd.  Erbyn hyn, rydyn ni’n gwybod yn llawer rhy dda.  Ond dyw e-Drosedd byth yn rhywbeth i’w anwybyddu, mae’n gallu dinistrio busnesau a sefydliadau.”

Mae’r digwyddiad yn rhan o ganolbwynt ehangach ar ymddiriedaeth a diogeledd ledled Llywodraeth, yr heddlu a’r sector cyhoeddus.   Yr amcan yw darparu gwasanaethau diogel, diogelu busnesau,  diogelu oedolion a phlant ar lein a rhoi cyfle i bawb gymryd rhan lawn yn yr agenda ddigidol.