Mae llefarydd ar ran RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) wedi dweud eu bod yn “aros yn bryderus” am benderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ddyfodol addysg Gymraeg yn y sir.

“Bydd penderfyniadau a wneir gan gynghorwyr ddydd Iau (heddiw) yn cael effaith uniongyrchol ar hawl rhieni i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn y fwrdeistref,” meddai’r llefarydd.

Yn ôl grŵp RhAG, mae yna “angen ar fyrder i gynyddu llefydd uwchradd cyfrwng Cymraeg ym masn Caerffili, er mwyn diwallu’r galw cynyddol o du rhieni ac er mwyn lliniaru’r pwysau ar Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y sir ar hyn o bryd.”

‘Siomi’

“Yn naturiol mae rhieni’n gofidio at y posibilrwydd o lefydd annigonol, ac wedi’i siomi unwaith yn barod, pan fu’n rhaid i’r sir roi’r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer safle St Ilan i’r neilltu oherwydd diffyg cyllid. Mae’n gwbl annheg i gadw rhieni a phlant yn y fath limbo,” meddai.

Mae’r grŵp yn dweud y byddai methiant i sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar safle St Ilan hefyd yn mynd yn groes i egwyddor graidd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

“Mae sicrhau fod darpariaeth yn ei le erbyn 2013 felly yn fater o argyfwng a ddylai gael ystyriaeth gwbl flaenllaw.”