Mae tri dyn wedi cael eu hachub o lofa yng Nglyn-nedd y bore ’ma, ar ol i ran o’r pwll ddymchwel.
Roedd y tri yn gaeth ym mhwll glo Aberpergwm, ger Glyn-nedd am hyd at awr ar ol i ran o’r pwll ddymchwel yn ystod oriau mân y bore ’ma.
Cafodd y gwasanaethau brys gael eu galw am 3.07am a chafodd y tri eu hachub o’r pwll.
Cafodd dau ddyn eu cludo i ysbyty Treforys, Abertawe. Cafodd dyn arall driniaeth ar y safle am sioc.
Yn ôl Heddlu De Cymru, does dim un o’r dynion wedi cael anafiadau difrifol.
Mae’r Heddlu wedi cadarnhau fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch bellach wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae archwilydd pyllau glo ar y safle ar hyn o bryd.
Mae pwll glo Aberpergwm yn agos i lofa’r Gleision lle cafodd pedwar dyn eu lladd ym mis Medi.