(Llun - Abhijit Tembhekar CCA 2.0)
Fe ddylai pobol Cymru fwyta’n debycach i’r Saeson os ydyn nhw eisiau iechyd gwell.

Fe fyddai hynny’n atal wyth o bob deg o achosion cynnar o ganser, strôc a chlefyd y galon.

Dyna’r casgliad mewn erthygl yn y British Medical Journal, sy’n dweud fod pobol Lloegr yn bwyta’n iachach na phobol gweddill gwledydd Prydain.

Yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen ac Ysbyty John Radcliffe yn y ddinas, fe fyddai mwy na 3,700 o farwolaethau wedi cael eu hatal yng Nghymru rhwng 2007 a 2009 pe bai’r Cymry’n bwyta’r un math o ddeiet â’r Saeson.

Mae’r gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru’n llai na’r bwlch rhyngddi a’r Alban a Gogledd Iwerddon ond mae Saeson, yn ôl arolwg, yn bwyta llai o halen a braster a mwy o lysiau a ffrwythau.

Yn ôl yr ymchwil, mae pobol Cymru’n bwyta cyfartaledd o 7.4 gram o halen bob dydd , o’i gymharu â 7 gram yn Lloegr a 7.5 gram yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.