Yn ôl y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, mae’n hawdd dweud mai “nawdd” yw’r ateb i’r ddadl dros daliadau am ganeuon Cymraeg ar y radio “wrth anwybyddu’r ffaith annerbyniol fod Radio Wales yn derbyn 25 gwaith yn fwy o arian am chwarae na Radio Cymru”.

Mae’r dadlau chwerw am y gwahaniaeth mewn taliadau am ganeuon ar Radio Cymru o’i gymharu â BBC Radio Wales yn deillio o “fformiwlâu mesur hynod annigonol PRS” meddai llefarydd ar ran y Sefydliad wrth Golwg360.

“Mae’r gwahaniaeth yma’n deillio’n llwyr o’r ffaith fod artistiaid fel Coldplay a Madonna, sy’n cael eu chwarae ar bob gorsaf arall p’run bynnag, yn amlwg yn yr hyn clywir ar Radio Wales. Mae’n golygu fod cân ar Radio Wales werth 25 gwaith yn fwy i’r artist caiff ei chwarae na chân ar Radio Cymru,” meddai.

Barn gwleidyddion?

Eisoes, mae Gai Toms wedi tynnu sylw at ffigyrau sydd wedi dod i’w sylw sy’n amlygu’r gwahaniaeth mewn taliadau am ganeuon 3 munud ar Radio Cymru o’i gymharu â Radio Wales. Yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law Gai Toms, mae’n costio £5.75 i chwarae cân 3 munud ar Radio Cymru, a £147.85 i chwarae cân 3 munud ar Radio Wales.

Mae Gai Toms wedi postio neges ar wefannau Twitter gwleidyddion a sefydliadau gwahanol yn ogystal â Facebook – ar ôl derbyn y wybodaeth ar E-bost. Mae’n awyddus i wybod beth yw barn gwleidyddion a “beth maen nhw am wneud” amdano, meddai wrth Golwg360.

Hefyd, roedd Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn wedi dweud wrth Golwg360 bod angen rhoi “pwysau ar y cwmni sy’n casglu’r arian” sef PRS for music.

Ond, fe ddywedodd PRS wrth Golwg360 ddoe bod rhaid i’r  ateb am y gwahaniaeth mewn taliadau i gerddorion Cymraeg am ganeuon sy’n cael eu chwarae ar orsafoedd gwahanol ddod ar “ffurf nawdd” o ffynonellau fel y “Llywodraeth neu’r Undeb Ewropeaidd.”

“Fedri di ddim disgwyl i gyfansoddwr  yn Northumberland roi darnau o’i freindal  i dalu rhywun yng Nghymru oherwydd bod nhw’n canu yn Gymraeg. Job Llywodraeth ydi hynny  – nid job PRS,” meddai John Hywel Morris, PRS for music wrth Golwg360.

‘Annigonol’

Yn ôl llefarydd ar ran y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig heddiw – mae’r “sefyllfa’n dangos fod angen cyfundrefn newydd i ddelio a Chymru gan fod PRS wedi profi’n annigonol ers blynyddoedd.”

“Yn 2006 rhoddodd y Gynghrair restr o 200 o leoliadau i PRS oedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg nad oeddent hyd yn oed yn eu bilio heb son am eu samplo. A roddwyd un ohonynt ar eu sampl, sampl sy’n dynodi lle mae bron yr holl arian am y caneuon sy’n cael eu chwarae ar y  radio’n mynd? Naddo wrth gwrs, nac ychwaith unrhyw leoliad oedd PRS yn eu trwyddedu yn barod. Canlyniad hyn oedd mwy o arian yn mynd allan o Gymru a llai fyth yn dod i mewn.

“Mae taliadau ar gyfer gorsafoedd cenedlaethol Cymru yn dibynnu’n llwyr ar yr hyn sy’n cael ei samplo mewn clybiau a bwytai a gorsafoedd radio eraill yn Lloegr, sy’n gwbl annheg ac annerbyniol. Cymrir yn ganiataol nad oes llawer o sylw i’r hyn caiff ei chwarae yn Ffrainc neu Rwsia pan mae PRS yn dosbarthu eu harian i’w haelodau Seisnig er enghraifft. Mae’r sefyllfa’n dangos fod angen cyfundrefn newydd i ddelio a Chymru gan fod PRS wedi profi’n annigonol ers blynyddoedd.”