Mae ymgyrchwyr yn erbyn estyniad enfawr i fferm odro ym Mhowys wedi dweud y byddan nhw’n parhau â’u hymgyrch, er bod pwyllgor cynllunio’r Cyngor Sir wedi cyhoeddi ddoe eu bod yn dueddol i gymeradwyo’r cais.

Yn ôl Roger Clegg, sydd ar bwyllgor y grŵp lleol Ymgyrch yn Erbyn Estyniad Leighton Farm, maen nhw’n bwriadu cynnal cyfarfod yn y dyddiau nesaf er mwyn penderfynu pa gamau i’w cymryd nawr.

Ddoe, fe benderfynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Powys i roi eu cymeradwyaeth amodol i gais cynllunio Fferm Lower Leighton i greu estyniad i system godro’r fferm. Mae’r ffermwr lleol, Fraser Jones, eisiau ymestyn y fferm er mwyn godro 1,000 o wartheg. Ar hyn o bryd, mae 200 o wartheg godro ar y fferm.

‘Maint a lleoliad’

Ond mae ymgyrchwyr wedi dweud na fyddan nhw’n derbyn y penderfyniad.

Dywedodd Roger Clegg wrth Golwg 360 ei fod yn dal i boeni am faint ac effaith y datblygiad ar y gymuned leol.

“Dydyn ni ddim yn wrth-amaethwyr, ond mae’r datblygiad hyn yn mynd i fod 50%-60% yn fwy na maint neuadd y pentref, a dim ond 100 llath o’r ysgol leol.

“Maint a lleoliad y fferm yw’n prif wrthwynebiad ni,” meddai wrth Golwg 360.

Dyna hefyd oedd gwrthwynebiad adroddiad swyddog cynllunio’r cyngor, Arwel Evans, a ddaeth i’r casgliad y dylid gwrthwynebu’r cais oherwydd ei faint a’i leoliad, gan eu bod yn “gwrthdaro’n sylfaenol” ag amodau datblygu’r Cyngor.

Mewn datganiad gan y grŵp yr Ymgyrch yn Erbyn Estyniad Leighton Farm ddoe, dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod nhw’n “methu deall sut bod cynghorwyr yn gallu pleidleisio yn erbyn argymhellion diduedd eu cynllunwyr eu hunain a wnaeth gwaith da, diduedd wrth gyflwyno’r adroddiad damniol.”

Mae’r ymgyrchwyr hefyd wedi sôn eu bod nhw nawr yn ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru alw’r cais i mewn, os yw pwyllgor cynllunio Cyngor Powys yn ei gymeradwyo.

Adroddiad

Ond ddoe fe bleidleisiodd cynghorwyr o blaid rhoi caniatad amodol i’r cais, o chwe phleidlais i bedwar.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys wrth Golwg 360 fod y “pwyllgor yn ystyried cymeradwyo’r cais yn amodol ar gyflwyno adroddiad i’r pwyllgor yn mynd i’r afael â rhai materion sy’n dal i sefyll.”

Bydd yn rhaid i’r ffermwr, Fraser Jones, gyflwyno’i adroddiad i’r pwyllgor cynllunio cyn y bydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud.