Wylfa
Mae Coleg Menai wedi cyhoeddi’r wythnos hon y bydd yn cynnig y cwrs  newydd yn ymwneud â “ymwybyddiaeth niwclear” – y cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mae’r Coleg yn Llangefni yn galw ar weithwyr lleol â diddordeb i gysylltu “a helpu i sicrhau bod yr ardal yn parhau’r traddodiad o weithwyr medrus yn y diwydiant niwclear.”

Ond, mae PAWB,  grŵp yn erbyn atomfa newydd  Wylfa B, wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn “drist gweld y sefydliad gwleidyddol ac addysgol yng Ngwynedd a Môn yn derbyn yn wasaidd bod lle i ynni niwclear yn yr unfed ganrif ar hugain.”

Mae PAWB yn dweud mai “mwy priodol o lawer fyddai newid holl bwyslais y cwrs i ganolbwyntio ar yr amrywiaeth eang o dechnolegau adnewyddol sy’n bodoli.”

‘Rhan hanfodol’

Yn ôl Lesley Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr cangen hyfforddiant ac ymgynghoriaeth fusnes Coleg Menai, Linc Menai mae ynni niwclear bellach yn rhan hanfodol o’r cymysgedd ynni.”

“Drwy hyfforddiant llwyddiannus, gall gweithwyr Gwynedd a Môn elwa ar y cyfleoedd sy’n datblygu yn yr ardal a sicrhau ein bod mewn sefyllfa gref i fanteisio i’r eithaf ar y cyhoeddiadau diweddar ynghylch ynni niwclear.”

Mae’r coleg yn dweud bydd y cwrs yn  “helpu i sicrhau bod gweithwyr ledled Gwynedd a Môn yn barod am y cyfleoedd a ddaw’n fuan” ac yn diolch i’r cynllun Ynys Ynni.

Bydd y rhaglen newydd ‘Dyfarniad Ymwybyddiaeth o’r Diwydiant Niwclear’ (ANIA) yn canolbwyntio ar ddarparu lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o’r diwydiant niwclear, a bydd ar gael i weithwyr lleol yn y Ganolfan Ynni newydd sbon yng Ngholeg Menai, Llangefni.

Mae cangen hyfforddiant ac ymgynghoriaeth fusnes Coleg Menai, Linc Menai wedi gweithio’n agos â COGENT, y cyngor sgiliau sector ar gyfer y diwydiant niwclear, a NSAN (National Skills Academy Nuclear), i ddarparu cymwysterau sy’n bodloni gofynion y sector cynhyrchu pŵer a dadgomisiynu.

“Wrth weithio’n agos â chyflogwyr lleol Magnox a Horizon Nuclear Power, mae Linc Menai wedi targedu darpariaeth cymwysterau niwclear ar gyfer bodloni anghenion sgiliau’r sector i’r dyfodol,” meddai’r coleg.

Ymateb PAWB

Ond yn ôl Dylan Morgan, llefarydd ar ran PAWB mae angen gofyn cwestiynau ynglŷn â’r  cwrs:  “Tybed fydd y cwrs yn cynnig ymwybyddiaeth o holl beryglon y diwydiant? Fydd y cwrs yn esbonio pam bod rhaid cadw unrhyw wastraff niwclear o orsafoedd niwclear newydd ar y safleoedd am hyd at 160 o flynyddoedd? Fydd y cwrs yn cynnig ymwybyddiaeth o sut i adael Ynys Môn pe bai damwain ddifrifol a gollyngiad ymbelydrol sylweddol yn digwydd yn y Wylfa, gan gofio mai dwy bont sy’n cysylltu Môn a’r tir mawr?

“Does dim sicrwydd y bydd buddsoddiad Wylfa B yn digwydd. Buddsoddwyr RWE ac E.On yn yr Almaen fydd yn penderfynu, ac mae gan y ddau gwmni broblemau ariannol. Yn sgil trychineb niwclear Fukushima, mae’r Almaen, Yr Eidal, Swistir a Gwlad Belg wedi penderfynu dirwyn eu diwydiant niwclear i ben a gwrthod codi gorsafoedd niwclear newydd,” medai Dylan Morgan.

“Hyd yn oed yn Ffrainc lle mae dibyniaeth drom ar drydan o orsafoedd niwclear, mae’r pwysau’n cynyddu i leihau’r ddibyniaeth ar ynni niwclear. Mae’r ateb gan Lywodraeth Cymru sy’n dweud bod gennym, fel cenedl, ddigon o adnoddau ynni adnewyddol i ddarparu dwywaith ein hanghenion trydan.

“Mwy priodol o lawer felly fyddai newid holl bwyslais y cwrs a gynigir yng Ngholeg Menai i ganolbwyntio ar yr amrywiaeth eang o dechnolegau adnewyddol sy’n bodoli ochr yn ochr â rhaglen hyrwyddo arbed ynni yn y cartref a’r gweithle.”

‘Ymateb i gyflogwyr’

Dywedodd David Price, Cyfarwyddwr Cyfadran Dechnoleg Coleg Menai wrth Golwg360: “Be rydan ni’n wneud yn Coleg Menai yw ymateb i gyflogwyr. Ac un o’r cymwysterau sydd yn angenrheidiol i fynd  i weithio neu i fynd ar safle niwclear ydi’r cwrs ANIA Award in Nuclear Awarness. Beth mae hynny yn wneud yw codi ymwybyddiaeth o ddefnydd o bŵer niwclear,” meddai .

“Rydan ni wedi cael ymholiadau ynglŷn â’r cwrs yma ac mi rydan ni wedi cael y caniatâd i’w redeg o. Dyna ydan ni’n gwneud. Fedra i ddim gwneud sylw os oes ’na swyddi ar gael ayyb wedyn.

“Rydan ni wedi cael lot fawr o ymholiadau gan gwmnïau sy’n gobeithio gweithio ar safle codi pwerdy newydd yn Wylfa,” meddai.

“Mewn sefydliad addysg fel hyn, yr unig beth rydan ni’n gwneud yw ymateb i’r gofynion. Os oes ’na gyflogwyr yn dod aton ni i ddweud fod y rheiny sy’n gweithio iddyn nhw yn dymuno cael y cymhwyster a gofyn i ni os fedrwn ni gynnal y cwrs yna mae’n rhaid i ni ystyried gwneud hynny. Be da ni’n wneud yw ymateb i ofynion y gymdeithas.

“Un o wendidau yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol yn Wylfa, oedd bod lot fawr o bobl yn gweithio yno yn datblygu’r adnodd a sgiliau newydd ond doedd y cyrsiau roedden nhw’n gwneud ddim yn cael eu hachredu o gwbl.”