Mae Aelod Cynulliad o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am weithredu brys gan y Gweinidog Iechyd ar ôl i ddynes oedrannus orfod aros bron i awr am ambiwlans yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Peter Black AC, bu’n rhaid i’r ddynes 89 oed o Rosili aros 55 munud am ambiwlans oherwydd dryswch ynglyn ai’r gwasanaeth ambiwlans ynteu’r gwasanaeth tân ddylai fod yn ymateb i’w galwad 999.

Yn ôl Peter Black mae angen i’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, weithredu ar unwaith er mwyn datrys y ddadl rhwng Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaetha Tân dros bwy sydd i fod i ymateb gyntaf i alwadau 999 mewn gwahanol achosion.

“Mae angen i’r Gweinidog Iechyd ddod â’r ddwy ochr ynghyd er mwyn datrys y broblem,” meddai Peter Black wrth Golwg 360.

Newid cynllun yn creu dryswch

Daw’r dryswch yn sgil newidiadau i’r ‘cynllun ymateb cyntaf’ gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn gynharach eleni. O dan y cynllun hwnnw, fyddai diffoddwyr tân rhan amser yn gallu cael eu galw i ddelio ag argyfyngau meddygol lleol yn gyflym, gan helpu rhoi cysur a chymorth cyntaf sylfaenol, tra bod y claf yn disgwyl am yr ambiwlans i gyrraedd.

Ond yn gynharach eleni fe benderfynodd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i dorri’n ôl ar y gwasanaeth hwn, fel bod diffoddwyr tân ond yn cael eu galw allan er mwyn delio â phum categori o alwadau, yn hytrach na’r 140 categori cynt.

“Mae nhw wedi neud hyn er mwyn arbed arian – gan ei fod e’n costio tua £100,000 y flwyddyn iddyn nhw,” meddai Peter Black wrth Golwg 360.

Ond y broblem fwyaf, yn ôl yr Aelod Cynulliad, sydd wedi derbyn nifer o gwynion am y system newydd gan gleifion a gweithwyr yn y gwasanaethau brys, yw nad yw hi’n glir pa alwadau sy’n disgyn o fewn y pum categori lle gall diffoddwyr tân gael eu galw allan.

“Mae’n ddadl rhwng yr Awdurdod Tân a’r Ymddiriedolaeth Ambiwlans ynglŷn â pha gategoriau o alwadau’n union y mae’r ymladdwyr tân yn dal i fod i’w hateb,” meddai.

Galw am weithredu

Tra’n siarad yn y siambr ddoe, fe alwodd Peter Black am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd yn esbonio sut y byddai’r sefyllfa yn cael ei ddatrys.

“Rydw i’n deall nad yw hi wastad yn bosib i gael ambiwlans i fan diarffordd o fewn amseroedd targed, a dyna pam fod y ‘cynllun ymateb cyntaf’ wedi cael ei gyflwyno yn y lle cyntaf,” meddai Peter Black.

“Mae’r torri’n ôl ar y cynllun hwn wedi gadael llawer o bobol heb y gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw gan y gwasanaethau brys.

“Y ddynes 89 oed yn Rhosili a adawyd i aros am 55 munud, pan fyddai ymatebwr cyntaf wedi gallu bod yno mewn llai na 10 munud, yw’r diweddaraf i ddioddef oherwydd y penderfyniad hwn. Mae’n bryd i’r Gweinidog gamu mewn i ddatrys hyn.”

Mae Golwg 360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i ateb y galwadau hyn, ond yn dal i aros am ymateb.