Mae dynes o dde Cymru yn mynd i fod yn datgelu rhai o gyfrinachau’r Ail Ryfel Byd yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Ar ddiwrnod Sul y Cofio eleni, fe fydd Eileen Younghusband yn adrodd peth o hanes y gwaith cyfrinachol y bu hi’n ei wneud yn y ‘Stafell Ffiltro’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Eileen Younghusband, sy’n byw ym Mro Morgannwg erbyn hyn, yn gwasanaethu fel swyddog yn Llu Awyr Ategol y Merched yn yr Ail Ryfel Byd – a dydd Sul nesaf fe fydd hi’n adrodd peth o hanes y cyfnod hwnnw wrth gynulleidfa yng Nghastell Caerdydd.

Yn ei haraith, ‘One Woman’s War: The Story of the WW2 Filter Room’, fe fydd Eileen Younghusband yn datgelu rhai o gyfrinachau’r ‘Stafell Ffiltro’, gan gofio defnydd cynnar Radar, ac am y penderfyniadau peryglus yr oedd hi a’i chyd-swyddogion yn gorfod eu gwneud i amddiffyn Prydain.

Darganfod y ‘Stafell Ffiltro’

Gwirfoddolodd Eileen Younghusband â gwaith y lluoedd pan oedd hi’n 18 oed, ac oherwydd ei sgiliau mathemategol, cafodd ei hyfforddi fel Clerc Dyletswyddau Arbennig – a arweiniodd yn fuan iawn at ddarganfod y ‘Stafell Ffiltro’.

Roedd y Stafell Ffiltro yn ddolen hollbwysig yng Nghadwyn Radar yr Arfordir, a oedd yn amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau awyr. Drwy ei gwaith, fe ddilynodd hynt awyrennau V1 Almaenig dros Swydd Gaint a Llundain, a hi roddodd y rhybudd ‘Big Ben’ cyntaf, pan ffrwydrodd y roced V2 Almaenig cyntaf yn Chiswick ar 8 Medi 1944.

Bu’r rhyfel yn adeg o gyffro a cholled i Eileen Younghusband, ac fe fu farw dau ddyweddi iddi yn y rhyfel. Yna, yn fuan ar ôl iddi briodi, cafodd ei hanfon dramor at yr Ail Lu Awyr Tactegol yng Ngwlad Belg.

Yno, daeth yn aelod o dîm a oedd yn tracio ac yn dinistrio cerbydau lansio awyrennau Almaenig V2, gan geisio’u hatal rhag eu hymosodiadau dinistriol ar Antwerp – porthladd a oedd yn hollbwysig i’r Cynghreiriaid ar gyfer glanio milwyr a chyflenwadau ar y cyfandir.

Mae Eileen Younghusband yn 90 oed erbyn hyn, ac yn byw yn Sili, ym Mro Morgannwg. Ddydd Sul, a hithau’n ddydd i ddathlu diwedd y Rhyfel Mawr, fe fydd Eileen Younghusband yn adrodd ei phrofiad hithau mewn rhyfel arall, yn Firing Line: Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd am 12pm.