Fe ddiflannodd tudalen Twitter cyd-drefnwyr rali annibyniaeth Tredegar ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 6), ar y diwrnod pan ddylai’r orymdaith fod wedi’i chynnal.

Yn sgil y coronafeirws, mae nifer o ganghennau Yes Cymru, y mudiad annibyniaeth sy’n cyd-drefnu’r gorymdeithiau ledled y wlad, wedi troi at y we i gynnal digwyddiadau ar-lein.

Cafodd digwyddiadau eu cynnal ar ddiwrnod gorymdaith Wrecsam ym mis Ebrill, ac mae gan Abertawe gynlluniau tebyg ym mis Medi.

Cafodd digwyddiadau eu cynnal ar-lein ddoe yn dilyn y newyddion fod polau’n awgrymu bod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi tyfu’n sylweddol.

Ar ddiwrnod y ralïau, mae’r trefnwyr yn annog pobol i bostio lluniau, fideos a negeseuon o gefnogaeth i’r mudiad ac i achos annibyniaeth a thagio @YesCymru ac @AUOBCymru, sef tudalen Pawb Dan Un Faner.

Ond ar ddiwrnod y rali ddoe, fe ddiflannodd y cyfrif @AUOBCymru.

“Mae gan AUOB dipyn o broblem efo eu cyfrif nhw, felly cadwch lygad barcud FAN HYN am fideos a negeseuon o 1yp,” meddai neges ar gyfrif Twitter @YesCymru.

Eglurhad

Mae’r dudalen wedi’i hatal o hyd heddiw (dydd Sul, Mehefin 7).

Mae golwg360 yn deall fod y broblem yn ymwneud â manylion cofrestru’r cyfrif, sy’n gofyn fod rhaid i ddyddiadau geni deiliaid cyfrifon ddangos eu bod nhw dros 18 oed.

Gyda’r holl weithgarwch yn ymwneud â’r rali dros y penwythnos, gan gynnwys hashnodau a phobol yn cynnwys manylion y cyfrif mewn negeseuon, mae’n bosib fod y cyfrif wedi dod i sylw Twitter.