Mae tua 2,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn rali Black Lives Matter yng Nghaerdydd i ddangos eu cefnogaeth i brotestwyr yn erbyn marwolaeth George Floyd yn America.

Mae protestwyr wedi bod yn heidio i Barc Bute yn gwrando ar siaradwyr yn trafod yr anghyfiawnder mae pobl ddu yn ei wynebu ledled y byd.

Roedd y brotest yn heddychlon, gyda’r torfeydd yn gyffredinol yn cadw at ymbelláu cymdeithasol o ddwy fetr, a llawer yn gwisgo masgiau a menig.

“Mae’n llonni fy nghalon i weld cymaint o bobl yma, meddai un o’r siaradwyr, Gabin Kongolo.

“Fe wyddon ni fod feirws o gwmpas, ond mae feirws mwy, sef hiliaeth.

“Does arnon ni ddim eisiau cael ein lladd yn y stryd, mewn gwaed oer, dim ond am y ffordd y cawson ni ein geni. Mae arnon ni eisiau gwell i’n pobl, a hawliau cyfartal, cyfleoedd cyfartal.”

‘Tanio matsen’

Dywedodd un arall o’r siaradwyr, Andrew Ogun, 22 oed, fod marwolaeth George Floyd wedi “tanio matsen” i bobl yng Nghymru.

“Mae pobl yn rhwystredig, mae pobl wedi blino, mae pobl eisiau i’w lleisiau gael eu clywed,” meddai.

“Allwn ni ddim dweud bod creulondeb yr heddlu cynddrwg yma ag yw yn yr Unol Daleithiau. Ond er hynny, mae’n rhaid i’r rhagfarn yn erbyn pobl ddu newid.

“Dw i’n 10 gwaith mwy tebygol o gael fy stopio gan yr heddlu. Dw i wedi cael fy stopio heb ddim rheswm dilys pan ydw i’n gwneud pethau da, yn gwneud pethau artistig, oherwydd sut ro’n i’n edrych.

“Y prif beth sydd angen ei wthio yw newid yn y cwricwlwm. Mae angen cael ymwybyddiaeth glir o’r rôl mae Prydain wedi ei chwarae yn hanes pobl ddu, a’r rôl mae pobl ddu wedi ei chwarae yn hanes Prydain.”

Roedd y brotest yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ledled Ewrop, America ac Awstralia mewn ymateb i’r ffordd y cafodd George Floyd ei ladd gan blismon yn Minneapolis ar 25 Mai. Cafodd digwyddiadau eraill eu cynnal ym Mangor a Chaerffili, ac mae un wedi’i drefnu yng Nghasnewydd ddydd Iau.