Mae arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos bod 87% o bobl yn credu y gall y profiad o fyw dan gyfyngiadau’r coronafeirws arwain at well perthynas rhwng pobl a’i gilydd.

Roedd 64% yn credu hefyd y gall arwain at well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac at amgylchedd glanach.

Er hyn, mae’r un arolwg yn dangos pryder am effeithiau’r coronafeirws ar y graddau mae gwasanaethau meddygol arferol ar gael, yn enwedig i’r henoed.

Mae’r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau sy’n cael eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall mwy ar effaith y Coronafeirws, a’r mesurau sy’n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad, ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae’n dangos bod cyfran y bobl sy’n meddwl bod y cyfyngiadau sydd ar waith i reoli’r coronafeirws yn ‘iawn fwy neu lai’ yn dal yn uchel ar 75 y cant.

Meddai’r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er gwaethaf yr holl anawsterau sy’n cael eu creu gan y Coronafeirws, mae’n galonogol bod cynifer o bobl yn dal i weld y manteision posibl a allai ddeillio o’r cyfnod anodd hwn.

“Mae pobl ledled Cymru wedi ymateb i gyfyngiadau’r Coronafeirws drwy gysylltu’n amlach â ffrindiau, perthnasau a chymdogion ac mae’r rhan fwyaf yn credu y bydd y rhain yn newidiadau a fydd yn para hyd yn oed ar ôl i’r cyfyngiadau ddod i ben.

“Mae bron dwy ran o dair o bobl yn credu hefyd y gallwn ddod allan o’r pandemig gyda gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac amgylchedd gwell drwy leihau llygredd sy’n gysylltiedig â theithio.”