Ysbyty Gwynedd - un o'r ysbytai dosbarth
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Llywodraeth o dorri addewid tros Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth newid y Gwasanaeth Iechyd.

Maen nhw’n cyhuddo’r Gweinidog Iechyd o fwriadu gwanhau’r ysbytai sy’n cynnig gwasanaethau cyffredinol ym mhob ardal ac o fethu ag ymrwymo i ddyfodol y rhwydwaith.

Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu bod rhaid newid a bod rhaid canoli rhai gwasanaethau dwys os yw’r Gwasanaeth Iechyd am fyw.

‘Does dim dewis’

“Y gwirionedd yw bod y Gwasaneth Iechyd yn wynebu heriau enfawr,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, yn y Cynulliad. “Does dim dewis.

“Mae’r ffaith bod disgwyliadau’n codi yn sgil datblygiadau meddygol, a phatrymau clefydau a phoblogaeth yn newid, yn golygu nad yw’r statws quo yn opsiwn.”

Wrth gyhoeddi gweledigaeth am ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd tros y pum mlynedd nesa’, roedd Lesley Griffiths yn dweud bod rhaid ymateb i broblemau poblogaeth sy’n heneiddio a’r argyfwng ariannol.

Tra bod rhaid canoli rhai gwasanaethau, roedd hi hefyd yn awyddus i weld mwy o bobol yn gwella gartref yn hytrach nag mewn ysbyty ac fe roddodd addewid na fyddai’r un Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yn cau.

‘Torri addewid’

Ond, yn ôl llefarydd Plaid Cymru, Elin Jones, mae’r Llywodraeth Lafur yn israddio’r ysbytai dosbarth, yn groes i addewid a wnaethon nhw cyn Etholiadau’r Cynulliad.

“Mae’r Gweinidog wedi rhoi’r golau gwyrdd i Fyrddau Iechyd Lleol israddio ysbytai a chanoli gwasanaethau,” meddai.

“Ar ôl gwadu hynny’n ddiamwys adeg yr etholiadau, does gan y Llywodraeth Lafur ddim mandad gwleidyddol i wneud hynny.”