Mae cynghorydd Llafur blaenllaw yn Sir Ddinbych wedi gadael ei blaid i ymuno â Phlaid Cymru.
Mae Paul Penlington wedi cynrychioli Gogledd Prestatyn ar Gyngor Sir Ddinbych ers 2012.
Dywed ei fod wedi ymuno â Phlaid Cymru oherwydd fod ganddi syniadau mwy positif i’r Sir a Chymru gyfan.
Mae hefyd wedi cyhuddo’r blaid Lafur o “adael pobol i lawr ar lefel lleol,” gan ddweud fod y blaid yn genedlaethol yn caniatáu hynny i ddigwydd.
“Mae’r grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddimbych wedi creu argraff arna i ers tro,” meddai Paul Penlington. “Maen nhw wedi cyflwyno syniadau ffres yn ogystal â herio’r drefn.
“Rwyf hefyd wedi cael fy mhlesio gydag arweiniad Adam Price yn ystod argyfwng y coronafeirws.”
Wrth groesawu ei benderfyniad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: “Mae Paul wedi ffeindio ei gartref gwleidyddol gyda Phlaid Cymru a bydd yn derbyn croeso mawr ym Mhrestatyn a Sir Ddinbych.
“Mae neges Plaid Cymru yn cyrraedd cartrefi ar draws Cymru gyfan, gydag aelodau newydd yn ymuno â ni ym mhob cymuned oherwydd eu bod yn sylweddoli fod gennym weledigaeth bositif ar gyfer eu cymunedau ac i Gymru.”