Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, meddai’r Prif Weinidog.
Daw hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod pedwar yn rhagor wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau i 1,383, tra bod 76 yn rhagor o achosion, gan fynd â’r cyfanswm i 14,314.
Ddydd Gwener (5 Mehefin), holwyd Mr Drakeford am safbwynt ei Lywodraeth ar orchuddion anfeddygol ar ôl i undeb llafur sy’n cynrychioli meddygon yng Nghymru ddweud y byddai cyflwyno rheolau yn helpu i reoli ymlediad Covid-19 ac achub bywydau.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y sesiwn ddyddiol i’r wasg: “Mae’r cyd-destun ar gyfer gorchuddion wyneb wedi newid oherwydd y cyhoeddiad a wnaed ddoe yn Lloegr am y defnydd gorfodol o fygydau wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Ni fydd hynny’n dod i mewn tan 15 Mehefin, ac mae hynny’n rhoi rhai dyddiau i ni ystyried y sefyllfa yma yng Nghymru, gan gydnabod y newid yn y cyd-destun.”
Dim rhybudd ymlaen llaw
Dywedodd Mr Drakeford y byddai “datganiad pendant” ar y mater yn cael ei wneud tua dechrau’r wythnos nesaf, a dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU wedi trafod na rhoi rhybudd ymlaen llaw am ei phenderfyniad. Aeth ymlaen i gwestiynu a oedd Lloegr yn ceisio cael penawdau “ac yna poeni am y manylion wedyn”.
“Hoffwn pe bydden ni wedi cael cyfle i archwilio hyn gyda Llywodraeth y DU cyn iddyn nhw wneud y cyhoeddiad,” meddai.
“Byddai hynny wedi caniatáu i ni gael rhai atebion i’r cwestiynau […] cyn y digwyddiad yn hytrach nag ar ôl y digwyddiad.
“Ond er ein bod yn parhau i allu cael trafodaeth a chydweithrediad cyn gwneud penderfyniadau ar y rhan fwyaf o faterion, mewn nifer fach o achosion dim ond ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud y byddwn yn clywed amdano.”
“Rhywfaint o warchodaeth ychwanegol”
Dywedodd Mr Drakeford mai’r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru o hyd oedd bod gwisgo mygydau wyneb yn rhoi “rhywfaint o warchodaeth ychwanegol” i bobl ond nad oedd hynny’n ddigon i’w wneud yn orfodol.
“Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi mynegi ei bryderon y gallai pobl wneud pethau mwy mentrus oherwydd eu bod yn meddwl bod mwgwd yn cynnig amddiffyniad iddyn nhw, ac nid yw hynny’n wir,” meddai Mr Drakeford.
“Ond mae’r cyd-destun yn newid oherwydd bod gwisgo gorchudd wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr.
“Mae trenau a ffyrdd rhwng y Gogledd a’r De yn plethu i mewn ac allan dros y ffin [felly] mae’n rhaid inni ystyried a yw cael cyfundrefn ar wahân yn bosibilrwydd pan fedrwch chi adael ar drên sy’n dechrau yng Nghymru, yn mynd i mewn i Loegr, yn dychwelyd i Gymru, yn mynd yn ôl i Loegr, yn dod yn ôl i Gymru.
BMA Cymru
Yn gynharach ddydd Gwener galwodd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) ar Lywodraeth Cymru i newid ei safiad ar orchuddion wyneb anfeddygol, a sicrhau bod cyflenwad ar gael i’r cyhoedd.
Dywedodd Cadeirydd BMA Cymru, Dr David Bailey, eu bod o blaid gwisgo gorchuddion wyneb “lle na ellir ymbellhau’n gymdeithasol”.
“Mae risg sylweddol o haint yn dal i fod, ac mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg wedi dangos os caiff cegau a thrwynau eu gorchuddio […] gall helpu i reoli lledaeniad haint Covid-19 ac felly achub bywydau.
“Mae BMA Cymru Wales yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid eu safbwynt ar unwaith, i leihau’r risg o ledaenu’r firws.”
Trafnidiaeth Cymru
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai’n “cydweithio â phartneriaid” i sicrhau bod teithwyr yn cael eu cadw’n ddiogel wrth deithio ar draws ffiniau.
Dywedodd llefarydd: “Mae natur drawsffiniol ein rhwydwaith yn golygu y byddwn yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod cwsmeriaid yn deall sut y gallant deithio’n ddiogel rhwng Cymru a Lloegr.
“Diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth a hoffem atgyfnerthu’r neges i bobol aros yn lleol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dim ond os yw’r daith yn hanfodol ac nad oes unrhyw ddewis arall.”