Mae cais am ysgrif uniaith Wyddeleg ar garreg fedd yn Lloegr wedi ei wrthod – gan ddenu ymateb gan Gymry amlwg.

Bydd carreg fedd Margaret Keene cael ei gosod yn Coventry, ac roedd hithau eisiau’r geiriau “in ár gcroíthe go deo” (yn ein calonnau am byth) arni.

Bu farw yn 2018 yn 73 oed, a chafodd ei geni yn Iwerddon.

Daeth y mater gerbron llys consistori Eglwys Loegr, a bellach mae barnwr yr achos wedi dyfarnu yn erbyn caniatáu’r geiriau am na fyddai mwyafrif o bobol yn eu deall.

“Dewis naturiol”

Mae un o ddarlledwyr amlycaf Cymru, Huw Edwards, wedi ymateb trwy dynnu sylw at gerrig beddi ag ysgrif uniaith Gymraeg arnyn nhw yn Lloegr.

“Mae yna gerrig beddi rhif y gwlith ym mynwentydd Lloegr sydd yn uniaith Gymraeg,” meddai darlledwr y BBC.

“Dyma un o fy nghyndeidiau yn Llundain,” meddai ar Twitter uwchlaw llun o garreg fedd. “Nid ‘datganiad gwleidyddol’ yw hyn, ond dewis naturiol y teulu.”

 

Testun “poen” wrth alaru

Mae’r academydd a chynghorydd Plaid Cymru, Simon Brooks, hefyd wedi rhannu ei farn yntau am y mater ar gyfryngau cymdeithasol.

“Mae ieithoedd cymunedol yn agos at galonnau at y rheiny sy’n eu siarad,” meddai. “A rhaid cael gwared ar y polisi o wahardd eu defnydd – polisi sy’n achosi poen wrth i bobol alaru.”