Mae’r arolwg diweddaraf o’r tirlun gwleidyddol yng Nghymru yn awgrymu y byddai 45% yn dewis diddymu’r Senedd a 33% yn pleidleisio tros annibyniaeth, pe bai’n rhaid dewis rhwng y ddau opsiwn.

Dywedodd 19% o bobol nad oedden nhw’n gwybod sut y bydden nhw yn pleidleisio dan y fath amgylchiadau, tra bod 2% wedi gwrthod ateb.

Roedd yno fwyafrif clir felly o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn yr ymateb i’r cwestiwn hwn.

Fodd bynnag, mae’r nifer sydd o blaid Cymru annibynnol wedi tyfu ers yr arolwg diwethaf ym mis Ionawr.

Yn ystod cyfnod y corona mae aelodaeth mudiad YesCymru, sydd o blaid annibyniaeth, wedi tyfu – ac mae nifer wedi dweud bod hynny oherwydd bod y Cymry wedi dechrau alaru gyda’r ffordd y mae Llywodraeth Prydain wedi mynd i’r afael â’r pan demig.

Byddai 25% yn pleidleisio tros annibyniaeth yfory

Yn ôl yr arolwg y byddai 25% o bobol Cymru yn pleidleisio dros annibyniaeth, pe bai yna refferendwm ar y mater yfory.

Gofynnwyd i bobol: ‘Pe bai yna refferendwm ar Gymru’n dod yn wlad annibynnol yfory, sut fydda chi’n pleidleisio?’

Dywed 54% y bydden nhw’n pleidleisio yn erbyn, sydd 2% yn is na’r un nifer adeg arolwg mis Ionawr.

Roedd 25% yn cefnogi annibyniaeth – cynnydd o 4% ar y nifer yn arolwg mis Ionawr.

Bu i 7% ddweud na fydden nhw’n pleidleisio, 13% ddim yn gwybod, ac 1% yn gwrthod ateb.

Mae’r cynnydd o bedwar pwynt o blaid annibyniaeth yn arwyddocaol, gan mai dyma’r lefel uchaf o gefnogaeth dros annibyniaeth mae’r arolwg wedi ei recordio hyd yma.