Mae’r côr Only Men Aloud wedi recordio cân er mwyn diolch i wirfoddolwyr Childline, sydd wedi bod yn cwnsela pobl ifanc yn ystod y gwarchae.

Roedd dros hanner y sesiynau cwnsela ddarparwyd gan Childline i blant yng Nghymru yn ystod mis Ebrill yn ymwneud ag iechyd meddwl, teimladau hunanddinistriol neu hunan niweidiol.

Mae wyth o aelodau Only Men Aloud wedi recordio fersiwn o gân Jess Glynne ‘I’ll be there’, gan greu fideo o’u perfformiad – a hynny heb adael eu cartrefi – yn deyrnged i wirfoddolwyr NSPCC Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Only Men Aloud wedi codi £35,000 i NSPCC Cymru sy’n gyfrifol am wasanaeth Childline.

“Mae gwirfoddolwyr Childline wedi bod yn gweithio yn barhaus, yn brin o staff, er mwyn cefnogi plant a phobol ifanc yng Nghymru pan mae eu hangen arnynt fwyaf,” meddai’r bariton Craig Yates.

Ychwanegodd Is-lywydd adrannol NSPCC, Hywel Peterson wedi dweud: “Rydym yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth mae Only Men Aloud wedi ei roi i NSPCC Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

 Mae sêr rygbi Martyn Williams, Sam Warburton, Jamie Roberts a Ryan Jones wedi recordio fideo yn diolch i wirfoddolwyr yr elusen yng Nghymru hefyd.

Yn ystod y gwarchae, mae gwirfoddolwyr yng nghanolfannau galw Childline ym Mhrestatyn a Chaerdydd wedi bod ar y rheng flaen ac wedi derbyn statws gweithwyr hanfodol gan Lywodraeth Cymru.

Yn y cyfnod o fis yn dilyn cyhoeddi’r gwarchae, cafodd 429 sesiwn gwnsela eu darparu i blant a phobol ifanc yng Nghymru.

FIDEO O BERFFORMIAD ONLY MEN ALOUD