Mae’r Blaid Lafur “yn ôl ar y brig” yng Nghymru, yn ôl sylwebydd gwleidyddol amlwg.

Daw sylwadau’r Athro Roger Awan-Scully yn dilyn cyhoeddiad arolwg barn y Welsh Barometer Poll – darn o waith ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru.

Mae’r pôl piniwn yn darogan y dangos y byddai Llafur yn ennill 21 o seddi Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, ac yn ennill 25 sedd yn y Bae.

Gwnaeth arolwg tebyg ym mis Ebrill ddarogan y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif o seddi Cymreig San Steffan (25) ac yn y Senedd (26).

Ond mae’r pôl piniwn diweddara’ yn dangos y byddai’r Torïaid yn dod yn ail yn Llundain (15) ac yng Nghaerdydd (19).

Effaith Cummings?

Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully, “mae pethau wedi newid”, ac mae’n credu bod Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn rhannol gyfrifol am hynny.

Mae troeon trwstan ei brif ymgynghorydd, Dominic Cummings, hefyd yn debygol o fod wedi cael dylanwad, yn ôl yr academydd.

“Dros yr wythnosau diwethaf mae polau Prydain-gyfan am y ffordd mae Johnson wedi delio â covid-19 wedi dangos cynnydd mewn drwgdybiaeth gyhoeddus,” meddai.

“Hefyd mae agweddau tuag at arweinydd Llafur y Deyrnas Unedig, Keir Starmer, wedi gwella.

“Yn fwy diweddar, mae’n ymddangos bod y cyhoedd wedi bod yn talu sylw i saga Dominic Cummings, a bod hynny wedi achosi niwed mawr i’r canfyddiadau cyhoeddus o lywodraeth Johnson a’r Blaid geidwadol.”

Pôl Etholiad San Steffan

Llafur: 21 (-1 o gymharu â mis Ebrill)

Ceidwadwyr: 15 (+1)

Plaid Cymru: 4 (-)

Pôl Etholiad Senedd Cymru

Llafur: 25 sedd

Ceidwadwyr: 19 sedd

Plaid Cymru: 15 sedd

Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd

Cafodd 1,021 oedolyn 18+ o Gymru eu holi ar gyfer yr arolwg barn. Cafodd ei gynnal rhwng Mai 29 a Mehefin 1.