Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n llacio nac yn newid rheoliadau ynghylch gwasanaethau a chyfleusterau y mae’n eu darparu.
Fodd bynnag, mae cynlluniau ar y gweill i agor y safleoedd gwastraff cartref.
Bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad nesaf ar ôl cyhoeddiad tair wythnosol Llywodraeth Cymru ynglŷn â sefyllfa’r coronafeirws, ar Fehefin 19.
Mae Swyddfeydd Harbyrau’r Cyngor yn Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd ar gau ers Mawrth 23 a does dim bwriad gan y Cyngor i’w hailagor ar hyn o bryd.
“Lleihau risgiau”
Yn ôl y Cyngor, mae’r cyhoeddiad wedi ei wneud wrth ystyried yr isod:
- y cyfyngiadau a’r canllawiau sy’n parhau mewn grym
• yr ymdrechion i leihau’r risgiau wrth wynebu’r posibilrwydd y bydd nifer sylweddol o bobl yn ceisio mynediad at y cyfleusterau hyn ac yn ceisio’u defnyddio
• y pwysau diangen posibl y gallai gweithgareddau o’r fath eu rhoi ar y gwasanaethau brys.
Dywed y Cyngor eu bod wedi cymryd camau cadarnhaol er mwyn lleihau lledaeniad posibl y feirws yng Ngheredigion ers dechrau’r pandemig.
“Hoffem ddiolch i’r preswylwyr lleol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod hwn, wrth i ni geisio cadw a chynnal yr ymagwedd lwyddiannus hon yn ogystal â’n sefyllfa o ran y gyfradd heintio ar lefel leol,” meddai datganiad gan y Cyngor.