Dylai Llywodraeth Cymru beidio â chynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am astudio yn Lloegr, yn ôl mudiad iaith.

Daw’r galw wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cwota am y nifer o fyfyrwyr o Loegr a all astudio yng Nghymru o fis Medi ymlaen.

Pwrpas y cam hwnnw, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau bod prifysgolion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn denu “cyfran deg” o fyfyrwyr o Loegr.

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, dylai Llywodraeth Cymru – yn ymateb i hyn – wrthod a rhoi cymorth ariannol i’r rheiny o Gymru a fydd yn astudio yn Lloegr o fis Medi 2021.

Cynnig “cam cadarnhaol”

“Gyda’n prifysgolion yn wynebu’r sefyllfa ariannol fwyaf difrifol ers degawdau a chymaint o fyfyrwyr disglair eisoes yn gadael Cymru, methwn weld sut y mae modd cyfiawnhau’r sefyllfa bresennol,” meddai Cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd.

“Byddai’r hyn yr ydym yn ei argymell, ar y llaw arall, yn gam cadarnhaol tuag at ddatblygu cyrsiau Cymraeg yn ein prifysgolion ac at gynllunio ar gyfer swyddi yng Nghymru, gan gynnwys cynyddu nifer yr athrawon fydd am ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn credu y dylid eithrio’r rheiny sy’n astudio pynciau nad oes modd eu hastudio yng Nghymru.

Y cynllun

O dan gamau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd prifysgolion Cymru ond yn medru cynyddu niferoedd myfyrwyr gan 6.5%, a’r bwriad yw rhwystro cystadlu rhwng y sefydliadau.

Mae Llywodraeth San Steffan eisiau gosod yr un rheol ar brifysgolion Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, er bod addysg wedi’i datganoli yn y llefydd yma.

Mae Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, wedi dweud ei bod yn “anghytuno’n gryf” â’r cam.

Ar y llaw arall, mae Dirprwy Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, wedi dweud wrth y BBC nad yw’n poeni rhyw lawer am y cynllun.

Bydd y cap mewn grym yn Lloegr hefyd, meddai, ac felly fydd Cymru ddim ar ei cholled.