Mae’r cyhoedd wedi cael eu cynghori i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru oni bai bod gwneud hynny’n hanfodol.

Dros y deg wythnos diwethaf, dan gysgod Covid-19, mae nifer y teithiau trên yng Nghymru wedi gostwng 95%.

Ac wrth i’r genedl barhau a’i hymdrech yn erbyn yr haint, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi apelio ar y cyhoedd i ymatal rhag defnyddio’u gwasanaethau.

Mae’r Llywodraeth yn cynghori pobol i ‘aros yn lleol’ yn ystod y cyfnod clo, ac mae TrC wedi cynnig cyngor i deithwyr.

Cyngor i deithwyr

  • Peidiwch â theithio os ydych chi’n sâl
  • Osgowch y cyfnodau prysur
  • Ceisiwch beidio â chyffwrdd unrhyw arwyneb fel botymau, drysau
  • Parchwch ein staff a theithwyr eraill bob amser

“Teithio saffach”

“Byddwn yn annog pawb sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddilyn ein cyngor ‘teithio saffach’,” meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

“Rydym yn cymryd nifer o gamau i sicrhau ein bod yn gallu gwella diogelwch cymaint â phosibl a byddem yn hoffi i’n cwsmeriaid ddilyn ein cyngor er mwyn ein helpu yn y broses hon.

“Drwy gydweithio gallwn barhau i gynnal diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid.”

‘Archebu sedd o flaen llaw’

Mae’r BBC yn adrodd bod Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn ystyried cyflwyno newidiadau i’r drefn yng Nghymru.

Dan y newidiadau arfaethedig yma byddai’n rhaid archebu sedd am deithiau bysys a thrên o flaen llaw oherwydd bydd llai o lefydd ar gael.