Llun: Gwefan Cyngor Bro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal ymchwiliad ar ol i 15 o garafannau gael eu gadael wrth ymyl dibyn ar ôl tirlithriad mewn parc gwyliau.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael galwad gan Barc Hamdden Porthceri tua 10pm nos Lun, a chafodd bâd achub ei anfon yno, ond doedd neb wedi eu hanafu nac mewn perygl.

Dywedodd perchennog un o’r carafannau bod rhan o’r clogwyn wedi syrthio i’r môr gan achosi i’r carafannau fod yn agos iawn at y dibyn.

Dywedodd y dyn, oedd ddim am gael ei enwi, bod tua 15 o garafannau wedi cael eu heffeithio gan y tirlithriad ond bod rhai yn agosach at y dibyn.

“Roedd rheolwyr y parc wedi ymateb yn gyflym ac roedd y pobol sydd â carafannau yn agos at y dibyn wedi cael eu cynghori i beidio â mynd i mewn iddyn nhw. Rydw i wedi cael ar ddeall bod perchnogion y parc yn bwriadu symud y carafannau i ran arall o’r safle.

“Doeddwn i ddim yn y parc ar y pryd ond ar ôl gweld y lluniau mae’n eitha barwychus. Fe ddigwyddodd yn eitha cyflym.”

Dywedodd Miles Punter o Gyngor Bro Morgannwg eu bod nhw’n ymchwilio i’r diwyddiad. Er bod y cyngor yn monitro’r arfordir yn yr ardal, cyfrifoldeb y tirfeddianwyr yw sicrhau bod y tir a’r  eiddo ar hyd yr arfordir yn cael eu diogelu, meddai.

Dywedodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg Alun Cairns y byddai’n cysylltu â pherchnogion y tir, y cyngor ac Asiantaeth yr Amgylchedd i darganfod pa waith adfer sydd angen ei wneud i ddiogelu’r preswylwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio’r traeth.