Mae cwmni ceir Aston Martin wedi cyhoeddi y bydd 500 o’u gweithwyr yn y Deyrnas Unedig yn colli eu swyddi.

Daw hyn wrth i’r diwydiant ceir geisio ymateb i ergyd yr argyfwng coronafeirws – cafodd llai na 200 o geir eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill.

Mae Aston Martin wedi cyfaddef eu bod wedi cynhyrchu llai o geir na’r disgwyl eleni, ac maen nhw’n gobeithio arbed miliynau trwy gael gwared a swyddi.

Bydd yr ailstrwythuro yn costio £12m, ond maen nhw’n gobeithio arbed £10m y flwyddyn o ran costau gweithredu.

Mae golwg360 wedi cysylltu ag Aston Martin i weld a fydd gweithwyr yng Nghymru yn colli eu swyddi.  Mae gan y cwmni safle yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Roedd y gwaith cynhyrchu ceir wedi ail-ddechrau yn eu ffatri yn Sain Tathan ar Fai 5 ar ol gorfod cau am gyfnod yn sgil y coronafeirws.

Cymryd camau

“Bydd y camau rydym wedi eu cyhoeddi heddiw yn gwella strwythur y sefydliad,” meddai datganiad gan y cwmni.

“Â llai o geir moethus yn cael eu cynhyrchu, mi fydd yn ein galluogi i ddychwelyd at wneud elw… Bydd cyfnod ymgynghori â gweithwyr ac undebau llafur yn cael ei lansio o fewn y diwrnodau nesaf.”

Tynged Sain Tathan?

Mae llefarydd ar ran Aston Martin wedi dweud y bydd “recriwtio yn parhau yn Sain Tathan yn unol â’n cynllun busnes.”

“Mae disgwyl y bydd delifro DBX yn mynd rhagddo yn yr haf, ac mae cryn dipyn o archebion y tu ôl i hynny.”

Un o geir Aston Martin yw’r DBX, ac mae’r rheiny yn cael eu cynhyrchu yn y safle yn Sain Tathan. Mae golwg360 wedi  holi am ragor o eglurder gan y cwmni.

Mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Russell George, wedi codi gofidion am y safle yn y gorffennol, gan ddweud bod safle Aston Martin yn Sain Tathan “wedi derbyn miliynau gan y trethdalwr”. Mae yntau wedi ymateb i gyhoeddiad y cwmni heddiw (Dydd Iau, Mehefin 4).

“Er bod hyn yn newyddion gofidus i bob aelod staff yn safleoedd Swydd Warwick a Sain Tathan, mae rhywfaint yn galonogol bod Aston Martin wedi adrodd bod dipyn o archebion am y DBX.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym mewn cysylltiad rheolaidd ag Aston Martin. Mae’r cwmni wedi ein sicrhau heddiw bod y broses recriwtio yn parhau yn Sain Tathan yn unol â chynllun busnes y cwmni.”