Wrth siarad ar ôl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw am ysgolion yn ailagor ar Mehefin 29, dywedodd y Gweinidog Addysg Cysgodol, Suzy Davies AS fod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyhoeddiad i ryw raddau.

“Er fy mod yn croesawu’n gyffredinol y cyhoeddiad heddiw y bydd plant ac athrawon yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn ddiweddarach y mis hwn, mae cwestiynau sydd dal angen eu hateb” meddai Suzy Davies.

“Er enghraifft, a wnaiff y Gweinidog sicrhau’r safonau presennol gan mai dim ond traean o’r disgyblion fydd yn yr ysgol ar unrhyw un adeg?

“A fydd yn effeithio ar blant tair blwydd oed?

“Beth fydd – os o gwbl – y ddarpariaeth ymarferol o ran cludiant i’r ysgol, prydau ysgol, a glanhau ysgolion yn ddwfn, a faint fydd yn cael ei ddynodi ar gyfer y rhain?

“Hefyd, rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, ennyn hyder yn ein staff addysgu a’n rhieni bod Covid-19 o dan reolaeth.

“Mae’n bwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn gwirio’n fanwl y nifer o oedolion yn yr ysgolion sydd wedi cael eu profi a gyda pha ganlyniadau.

“Mae angen i ni hefyd gael gwybod os oes cynlluniau ar gyfer profi oedolion asymptomatig mewn ysgolion.

“Mae cwestiynau enfawr dal i’w gofyn, ac mae angen mynd i’r afael â nhw’n gyflym.”