Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb yn chwyrn ar ôl cael deall bod drafft diweddaraf Bil y Cwricwlwm yn nodi Saesneg fel rhan orfodol o’r cwricwlwm, er gwaethaf addewidion i’r gwrthwyneb gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, y llynedd.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn deall mai’r bwriad o hyd ydy gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r Bil, a chynnwys cymal fydd yn golygu bod y Gymraeg a’r Saesneg yn orfodol fel ei gilydd.

Ond bydd posib i gyrff llywodraethu ysgolion ‘optio allan’ fesul un o wneud Saesneg yn orfodol cyn saith oed.

Yn ôl y Gymdeithas, yn dilyn cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, cadarnhaodd hi mai dyma’r bwriad.

“Pe na byddai’r Saesneg yn orfodol yn y Bil, a dim ond y Gymraeg, byddai ffỳs mawr gan yr 80% o’r boblogaeth sydd ddim yn siarad Cymraeg,” meddai, yn ôl y Gymdeithas.

Tanseilio

Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi eu pryderon am y cynlluniau ac am sylwadau Gweinidog y Gymraeg.

Mae’r llythyr yn nodi bod y cynnig o ‘optio mewn’ i’r cyfnod trochi yn golygu y byddai modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy cyrff llywodraethol ac yn rhwystro unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg.

Yn ôl y llythyr, bydd y Bil yn y ffurf hon yn “tanseilio addysg Gymraeg ar draws y wlad” ac yn “mynd yn groes i ymrwymiad y Llywodraeth o weithredu un continwwm dysgu’r Gymraeg a’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr”.

“Nid oes angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg,” meddai’r llythyr.

“Yn y cyd-destun ieithyddol presennol, mae plant Cymru’n mynd i gaffael Saesneg oherwydd ei bod yn iaith mor rymus ac yn hollbresennol ym mywydau pawb yn y wlad…mae’n glir mai’r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg”.

‘Agwedd nawddoglyd’

“Mae cynnig y Llywodraeth i wneud Saesneg yn orfodol yn peri risg sylweddol i addysg Gymraeg,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Er gwaethaf addewid y Llywodraeth eu bod nhw’n agored i dynnu gorfodaeth Saesneg o’r Bil os oedd rhesymau da i wneud hynny, ymddengys eu bod am fwrw ymlaen gyda’r cynnig niweidiol hwn gan anwybyddu’r holl dystiolaeth yn ei erbyn.

“Nid yw’r Llywodraeth wedi cynnig unrhyw gyfiawnhad addysgol na chyfreithiol dros wneud Saesneg yn orfodol, ac nad oes unrhyw arbenigwr na chorff wedi argymell hyn.

“Mae sylwadau Gweinidog y Gymraeg yn awgrymu taw penderfyniad gwleidyddol yn unig yw hwn, ar sail codi bwganod ac agweddau nawddoglyd tuag at y mwyafrif o bobl Cymru sydd ddim yn siarad Cymraeg ond sydd am weld ein plant yn gadael yr ysgol yn rhugl yn yr iaith.”

“Mae peryg gwirioneddol y bydd y Llywodraeth yn methu’r cyfle euraidd mae’r cwricwlwm newydd yn ei gynnig i wireddu’r hawl sydd gan bob plentyn i fedru’r Gymraeg a thrwy hyn ei gwneud yn llawer anoddach, os nad yn amhosib, i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”