Mae’r ateb i’r gwahaniaeth mewn taliadau i gerddorion Cymraeg am ganeuon sy’n cael eu chwarae ar orsafoedd gwahanol yn gorfod dod ar “ffurf nawdd”,  meddai llefarydd ar ran PRS for Music wrth
Golwg360.

Daw hyn wedi i’r canwr Gai Toms dynnu sylw at ffigyrau sydd wedi dod i’w sylw sy’n amlygu’r gwahaniaeth mewn taliadau am ganeuon 3 munud ar Radio Cymru o’i gymharu â Radio Wales.

Yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law Gai Toms, mae’n costio £5.75 i chwarae cân 3 munud ar Radio Cymru, a £147.85 i chwarae cân 3 munud ar Radio Wales.

Mae Gai Toms wedi postio neges ar wefannau Twitter gwleidyddion a sefydliadau gwahanol yn ogystal â Facebook – ar ôl derbyn y wybodaeth ar E-bost. Mae’n awyddus i wybod beth yw barn gwleidyddion a “beth maen nhw am wneud” amdano, meddai wrth Golwg360.

Yn ôl John Hywel Morris, o PRS for Music “amcan” oedd ffigyrau o’r fath a dywedodd nad oedd yn gallu rhoi sylw am ddaliadau gorsafoedd unigol.

‘Trafodaethau parhaol’

“Mi ydan ni mewn trafodaethau parhaol efo’r gymuned Gymraeg ynglŷn â’r newidiadau yma. ‘Dw i’n llwyr sylweddoli faint o arian sy’n cael ei golli i’r diwydiant. Dw i’n deall safiad pobl fel  Ynyr a Gai, mae’r newidiadau wedi bod yn glec iddyn nhw wrth gwrs,” meddai John Hywel Morris.

“O ran y trafodaethau rydan ni’n cael, rydan ni’n siarad gyda chynghrair y cerddorion yng Nghymru a dw i’n bersonol yn siarad gyda lot o gyfansoddwyr yn unigol – felly dw i’n llwyr ymwybodol o’r sefyllfa,” meddai.

“Mae ’na lot o waith da wedi’i wneud ar ein hochr ni a nhw hefyd. Fe wnaethon ni weld y broblem a’u rhybuddio cyn iddo ddigwydd. Yn y cyfamser, mae’r gynghrair wedi cael ei astudiaethau i edrych i mewn i sefydlu cymdeithas gasglu eu hunain.”

‘Nawdd’

Ond, fe ddywedodd bod “rhaid i’r ateb yn y diwedd ddod ar ffurf nawdd.”

“Mae’r diwylliannau Cymraeg eu hiaith i gyd yn cael ei noddi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Ond, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi gorfod sefyll ar ei thraed ei hun heb unrhyw nawdd. Dw i’n meddwl mai dyma’r diwydiant diwylliannol mwyaf effeithlon sydd yna yn y Gymraeg,” meddai cyn dweud bod yr “adeg wedi dod lle mae angen cael nawdd.”

“Ond, fedr y nawdd ddim dod gan weddill aelodau PRS. Mae’n rhaid iddo ddod o ffynonellau fel y Llywodraeth neu’r Undeb Ewropeaidd. Dyna ydi gwir realiti’r sefyllfa,” meddai John Hywel Morris, PRS for music wrth Golwg360.

Dywedodd ei fod yn “cefnogi gymaint â unrhyw un arall” y bwriad o gadw “sin Cymraeg lle mae pobl yn teimlo gallan nhw ganu yn Gymraeg a gwneud bywoliaeth allan ohoni” ond mai cwestiwn gwleidyddol oedd hi yn y pendraw.

Stori wreiddiol – <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/56863-tal-am-ganeuon-datblygiad-annerbyniol-ond-trafodaethau-ar-y-gweill>