Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cydweithio â gwledydd eraill i gyhoeddi Siarter Tai Celtaidd.

Daeth cadarnhad o’r Siarter ddoe (dydd Llun, Mehefin 1), yn dilyn cydweithio rhwng Cymru, Cernyw, yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw “i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n cymunedau”.

Mae’n ymateb i’r argyfwng tai sy’n gyffredin mewn cymunedau lle mae ieithoedd lleiafrifol yn cael eu siarad.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn trafod efo’r gwledydd eraill ers misoedd ac yn dweud ei bod yn bwysig fod safiad ar y cyd yn digwydd.

Dywed mai polisïau economaidd a chynllunio ers cenedlaethau, effeithiau llymder a gweledigaeth sy’n rhoi arian o flaen pobl sydd wedi cyfrannu at y broblem.

Tai haf

“Mae’r Gymdeithas wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau fod tai ar gael i bobl leol yn gyson,” meddai Bethan Ruth, Cadeirydd y Gymdeithas.

“Tynnwyd sylw at y broblem tai haf ddegawdau yn ôl.  Bydd y Siarter Tai Celtaidd yn fodd i’n gwledydd rannu profiadau a dysgu sut i ddatrys problemau gyda’n gilydd.

“Wrth gwrs, mae gwahaniaethau rhwng pob gwlad, a bydd y Gymdeithas yn manylu rhagor at faterion sy’n berthnasol i Gymru dros y misoedd nesaf.

“Hoffwn ddiolch i’n cyfeillion yn Mebyon Kernow, Misneach, Misneachd Alba ac Ynys Manaw am sefyll efo ni dros hawl siaradwyr ein hieithoedd i fyw yn eu cymunedau pan mae cymaint o heriau yn ein gwynebu yn gwneud hynny’n gynyddol anodd.”