Gallai Cymru weithredu cyfyngiadau mewn rhannau penodol o’r wlad os canfyddir hotspots o’r coronafeirws, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw.

Dywedodd Mr Drakeford na fyddai’n diystyru cyfyngiadau “penodol, lleol” ar y cyhoedd petai’r system olrhain cyswllt newydd yn dangos llawer o drosglwyddiadau mewn ardal benodol. Daw hyn ar ôl i’r Gweinidog Cyllid yng Nghymru ddweud yr wythnos ddiwethaf y byddai gwneud hynny’n achosi “dryswch”.

Gofynnwyd i Mr Drakeford am gyfyngiadau lleol yng nghyfarfod dyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg, a dywedodd fod Gweinidogion “yn bendant heb ddiystyru” gwneud hynny.

Dywedodd: “Rwyf wedi cyfeirio at adnabod hotspots, ac os oes rhai ac mai’r ateb gorau yw cymryd camau penodol yn y maes hwnnw, yna dyna a wnawn.

“Byddai hynny’n ymateb cyffredin iawn i broblem iechyd cyhoeddus, eich bod yn cymryd y camau yn y fan lle mae’r broblem yn dod i’r amlwg.”

Ddydd Mercher diwethaf (27 Mai), wrth gael ei holi ynghylch cynnydd sydyn mewn achosion yn y Gogledd dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, nad oedd y Llywodraeth yn ystyried cyfyngiadau lleol.

Dywedodd Ms Evans: “Ar hyn o bryd, nid ydym yn ystyried y cloi ar draws gwahanol rannau o Gymru, ac mae rhan o hynny am fy mod yn credu mai un o gryfderau’r neges yw ei bod yn neges glir iawn sy’n berthnasol i bawb yn gyfartal ledled Cymru.

“A dwi’n meddwl os ydych chi’n chwilio am wahanol lockdowns neu lockdowns mewn ardaloedd bach, yna mae potensial am lawer iawn o ddryswch.”