Mae Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams wedi dweud ei bod hi’n ystyried ei hopsiynau yn dilyn cyfarfod gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch capio nifer y myfyrwyr o Loegr sy’n astudio yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r Adran Addysg yn Lloegr gadarnhau cap ar nifer yr israddedigion y gall pob prifysgol eu recriwtio yn yr Hydref – gan gyfyngu sefydliadau i gynnydd o ddim mwy na 6.5% yn nifer y myfyrwyr newydd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd eisiau gosod yr un cyfyngiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, er bod polisi addysg uwch wedi ei ddatganoli.

Dywed Kirsty Williams, mewn datganiad sydd ar eich chyfrif Twitter, ei bod yn “anghytuno’n gryf â dull Lloegr o ymdrin â’r mater hwn”

“Rydym yn croesawu miloedd o fyfyrwyr o Loegr i Gymru bob blwyddyn,” meddai’r Gweinidog Addysg.

“Mae myfyrwyr ac academyddion o Loegr, fel miloedd o bobl eraill o bob cwr o’r byd, yn cyfrannu’n enfawr i fywyd campws, y gymuned a [bywyd] cenedlaethol Cymru.

“Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd mwy yn yr hydref a’r blynyddoedd i ddod.

“Rwy’n parchu penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Lloegr ar gyfer Lloegr, fel rwy’n parchu llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n disgwyl yr un parch gan y Gweinidog [yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig].”