Roedd angen triniaeth ysbyty ar ddyn ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf gyda photel wydr yn ystod lladrad honedig.

Galwyd yr heddlu yn dilyn adroddiadau am ladrad yn Heol Bedwas yn agos i orsaf betrol Morrisons, ger Parc Lansbury yng Nghaerffili am tua 8 o’r gloch nos Sul, Mai 31.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent:

“Fe ymosodwyd ar ddyn a chafodd niwed i ardal y gwddf, credwn ei fod wedi ei drywanu â photel wydr. ”

Yn ystod y digwyddiad, mae’n debyg fod beic a ffôn symudol wedi eu dwyn.

Cafodd y dioddefwr, dyn 40 oed o ardal Caerffili, driniaeth yn yr ysbyty, ond mae bellach wedi ei ryddhau.

Ychwanegodd y llefarydd fod dyn 30 oed, o ardal Caerffili, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladrad ac ymosod ac mae’n cael ei gwestiynu ar hyn o bryd.