Aled Haydn Jones, a ddaw yn wreiddiol o Aberystwyth, yw pennaeth newydd BBC Radio 1.

Erbyn hyn mae’n byw yn Llundain, ac mae wedi gweithio i’r orsaf radio ers dros 20 mlynedd.

Dywedodd Aled Haydn Jones: “Dwi mor falch o gael y cyfle i fod yn gyfrifol am yr orsaf radio ieuenctid orau yn y byd.

“Mae Radio 1 yn falch o allu cefnogi’r gerddoriaeth newydd orau a’r DJs mwyaf anhygoel. Ein bwriad yw parhau i ddiddanu ein cynulleidfa ifanc, ac mae gennym dimau pwrpasol yn gweithio’n galed i gyflawni hynny.

“Rydyn ni’n gwybod na fydd Radio 1 byth yn gallu aros yn llonydd –  rydyn ni’n mynd i wrando ar ein cynulleidfa er mwyn cynnig yr hyn maen nhw eisiau.”

Aled Haydn Jones oedd y tu ôl i lwyddiant diweddar Radio 1’s Big Weekend 2020. Yn y digwyddiad unigryw recordiwyd dros 50 o setiau byw newydd sbon gan artistiaid o’u cartrefi eu hunain, yn ogystal â dod â thua 50 o’r perfformiadau mwyaf cofiadwy yn ôl o benwythnosau mawr blaenorol.

10 miliwn o wrandawyr

Ar hyn o bryd mae gan Radio 1 gynulleidfa radio o tua 10 miliwn o wrandawyr, ac yn ddiweddar mae Aled Haydn Jones wedi bod yn canolbwyntio ar ymestyn y ffigwr hwnnw gan ddefnyddio cyfryngau eraill.

Bellach mae gan Radio 1 14 miliwn o wylwyr wythnosol ar ei sianelau YouTube ac iPlayer, ac â 10.5 miliwn o ddilynwyr ar wefannau cymdeithasol.

Eglurodd Lorna Clarke, rheolwr cerddoriaeth boblogaidd y BBC, fod gan Aled dargedau uchelgeisiol ar gyfer yr orsaf Radio.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael dull newydd o weithredu. Fel y rhwydwaith mwyaf poblogaidd ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc ledled y wlad, rydym am gymryd rhai risgiau a gwthio ein hunain er mwyn gwneud mwy ar draws pob platfform. ”

Bydd Aled Haydn Jones yn cydweithio yn agos gyda Chris Price, Pennaeth cerddoriaeth, Radio 1 a 1Xtra, a Rachel McHalroy, swyddog comisiynu, Radio 1 a 1Xtra er mwyn cyflawni ei dargedau.