Mae ditectifs yn y Barri yn apelio am wybodaeth a thystion posib yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei gredu yw ymosodiad tân bwriadol a effeithiodd ar ddau gartref cyfagos.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i gynorthwyo’r gwasanaeth tân yng Nghlos Tear yn y Barri toc  ar ôl 3 o’r gloch y bore ddydd Sul (Mai 31), ar ôl i breswylydd adrodd bod tân wedi cynnau yng nghefn y ddau dŷ.

Mae’r tân, y maen nhw’n amau iddo gael ei gynnau’n fwriadol, wedi achosi difrod i’r ffensys a’r gerddi, yn ogystal ag i ddrysau’r tai.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal yn oriau mân ddydd Sul, yn enwedig tuag adeg y digwyddiad, i gysylltu â nhw.

Maen nhw’n awyddus hefyd i glywed gan unrhyw un yn yr ardal sydd â chamerâu teledu cylch cyfyng neu Dash Cam, a allai fod o gymorth i’r ymchwiliad.