Fe fydd pobol fregus sydd wedi bod yn gwarchod rhag y coronafeirws yn cael gadael eu cartrefi er mwyn ymarfer corff o heddiw ymlaen (Dydd Llun, Mehefin 1).

Fe fyddan nhw hefyd yn cael cwrdd â phobl o aelwyd arall ond fyddan nhw ddim yn cael mynd i mewn i gartref rhywun arall na rhannu bwyd.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw newidiadau eraill i’r cyngor sydd ar gael i’r rheiny sydd wedi bod yn cysgodi rhag o firws.

Ni ddylai pobl sydd yn risg uchel fynd i’r siopau na’r gwaith y tu allan i’w cartrefi ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw barhau i sicrhau bod bwyd a meddyginiaethau yn cael eu hanfon i’w cartrefi.

Fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul (Mai 31) bod 11 yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael prawf positif am Covid-19, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 1,342.

Roedd 82 yn rhagor o bobl wedi cael prawf positif am y coronafeirws, gan ddod a nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru i 13,995.

“Hanfodol”

Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru Dr Frank Atherton nad yw’n bosib sicrhau nad oes risg o gwbl ond eu bod yn cynghori’r rhai sy’n gwarchod eu hunain “i ymarfer corff yn ystod cyfnodau llai prysur fel bod llai o risg o ddod i gysylltiad ag eraill.”

“Ry’n ni wedi cynghori pawb yng Nghymru i barhau i gadw pellter o ddau fetr a sicrhau glanweithdra da wrth gwrdd â phobl tu allan. I’r rhai sy’n gwarchod eu hunain, mae dilyn y rheolau yma’n hanfodol.”

Mae  Dr Frank Atherton yn parhau i ystyried y cyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain ac fe fyddan nhw’n derbyn llythyr yn yr wythnosau nesaf i amlinellu’r camau nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.

Daw’r newidiadau i rym wrth i’r cyfyngiadau yng Nghymru gael eu llacio rhywfaint heddiw (Mehefin 1). Fe fydd pobl yn cael cwrdd â phobl o aelwyd arall yn yr awyr agored cyhyd a’u bod nhw ddim yn teithio mwy na 5 milltir ac yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.