Mae Siôn Eirian, y dramodydd, bardd a nofelydd, wedi marw’n 66 oed yn dilyn salwch.

Cafodd ei fagu yn Hirwaun, Brynaman a’r Wyddgrug, yn fab i James a Jennie Eirian Davies. Ei frawd yw Guto Davies, sy’n swyddog y wasg gyda Chlwb Rygbi Pontypridd.

Ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg ac Athroniaeth o Brifysgol Aberystwyth, aeth i’r Coleg Cerdd a Drama cyn dod i’r amlwg gyda’i gyfrol o farddoniaeth Plant Gadara, oedd yn ymwneud tipyn â phobol ifanc y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys skinheads, oedd yn beth prin yn Gymraeg ar y pryd.

Erbyn hynny roedd y teulu wedi symud i’r Wyddgrug.

Yr Eisteddfod a sgriptio i’r BBC

Aeth yn ei flaen i fod yn enillydd ieuengaf erioed Coron Eisteddfod yr Urdd yn 1971, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1978.

Rhwng 1979 a 1985, roedd yn awdur sgriptiau BBC Cymru ar raglenni sy’n cynnwys Pobol y Cwm.

Ef oedd olynydd Meic Povey yn yr Adran Golygu Sgriptiau, a hynny o dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry.

Ymhlith ei weithiau amlycaf ar y sgrîn fach mae Marwolaeth yr Asyn o Fflint, y gyfres dditectif Bowen a’i Bartner, a’r ffilmiau Noson yr Heliwr a Gadael Lenin.

Ymhlith ei weithiau amlycaf ar lwyfan mae Wastad ar y Tu Fas, Elvis, y Blew a Fi ac Epa yn y Parlwr Cefn.

Mae’n cael ei ystyried yn un o lenorion mwya addawol ei gyfnod ac ychydig bach o ‘enfant terrible’, yn ysgrifennu am fywydau pobol ifanc wrthryfelgar yn ôl yn y 70au.

Mi sgrifennodd nofel Bob yn y Ddinas, oedd yn rhaflaenu llawer o’r ysgrifennu dinesig sydd wedi bod ers hynny.

Dramâu amserol

Dechreuodd Siôn Eirian weithio ar ddrama wleidyddol yn 2014, Yfory, a gafodd ei llwyfannu gan gwmni Bara Caws yn 2017. Roedd y ddrama wedi ei hysgogi gan y Cynulliad a digwyddiadau gwleidyddol y cyfnod. Roedd hi yn “astudiaeth o gyfeiriad gwleidyddol Cymru,” yn ôl y diweddar ddramodydd mewn cyfweliad gyda Golwg yn 2017.

Sgrifennodd yr act olaf ar ôl i Donald Trump ennill y ras am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ac ar ôl iddo ddewis ei gabinet Americanaidd, er mwyn gwneud y ddrama yn gwbl amserol.

Roedd Bara Caws eisoes wedi cael llwyddiant mawr gyda drama arall ganddo, sef Garw, am gyn-löwr a chyn-focsiwr, yn 2014. Enillodd honno bedair gwobr yn y Gwobrau Theatr Cymru yn 2015.

Teyrngedau

Yn dilyn y newyddion, mae nifer wedi talu teyrnged iddo.

“Er mai ym myd y ddrama lwyfan roedd cyfraniad mwyaf Siôn, roedd hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu’r gyfres Pen Talar i S4C ac wrth gwrs am y ffilm ryngwladol Gadael Lenin,” meddai Amanda Rees, cyfarwyddwr cynnwys S4C.

“All Cymru ddim fforddio colli ysgrifenwyr unigryw a thalentog fel Siôn. Byddwn yn gweld ei golli.”

Yn ôl Siân Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, roedd Siôn Eirian “yn llenor a sgriptiwr oedd â llais ac arddull cwbl unigryw”.

“Mi wnaeth o gyfraniad hollbwysig i adran ddrama BBC Cymru a bu’n un o hoelion wyth Pobol y Cwm am flynyddoedd lawer – roedd yn sgriptiwr naturiol a threiddgar oedd yn gwybod yn reddfol pa storiau fyddai’n apelio at y gynulleidfa. Anfonwn ein cydymdeimlad at y teulu cyfan.”