Mae 14 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Mai 30).

Mae’n golygu bod cyfanswm o 1,331 o bobol wedi marw erbyn hyn.

Cafodd 86 o achosion newydd eu hadrodd, sy’n mynd â’r cyfanswm i 13,913.

Ond mae lle i gredu bod y ffigurau’n sylweddol uwch, a hynny yn sgil y ffordd mae achosion yn cael eu hadrodd a’u cofnodi.