Mae Kirsty Williams yn dweud ei bod hi’n “siomedig” ynghylch cynlluniau Llywodraeth Prydain i gyfyngu ar nifer y myfyrwyr o Loegr sy’n cael dychwelyd i brifysgolion Cymru ar ôl y coronafeirws.

Yn ôl Ysgrifennydd Addysg Cymru, dyw’r cynllun “ddim er lles y Deyrnas Unedig gyfan”.

Daw ei sylwadau mewn llythyr at Michelle Donelan,y Gweinidog Prifysgolion yn Llywodraeth Prydain.

“Dw i’n bryderus iawn eich bod chi wedi dewis rhoi terfyn ar sefydliadau Cymru yn hytrach na chydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau datrysiad sy’n unol â datganoli,” meddai.

“Dw i ddim yn credu bod y dull hwn er lles y Deyrnas Unedig gyfan, ac mae’n dangos amharodrwydd, er mawr syndod, i barchu polisïau cyfatebol ym mhob gwlad.”

Cydweithio ac ymgynghori

Mae hi’n dweud ymhellach fod HEFCW yng Nghymru yn ymgynghori â’r sector addysg uwch yng Nghymru ar ddull i fonitro derbyniadau er mwyn ymateb yn y modd mwyaf addas i’r pandemig.

“Yn unol â’r dull pedair gwlad o sefydlogi’r system dderbyniadau, mae’n drueni y bydd cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri ar draws cynigion HEFCW, sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â’r sector yng Nghymru.

“Fy mhrif ffocws yw gwarchod buddiannau myfyrwyr o Gymru a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

“Byddaf yn ystyried y goblygiadau i Gymru sy’n codi o bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cymryd camau pellach er mwyn sicrhau bod y buddiannau hynny’n cael eu gwarchod.

“Bydd y dull yng Nghymru o sefydlogi recriwtio myfyrwyr yn cael ei ddatblygu ar y cyd â HEFCW a’n sector ni.

“Bydd fy mhenderfyniad ynghylch sut i symud ymlaen yn seiliedig ar yr hyn sy’n iawn i fyfyrwyr Cymru a Chymru gyfan.”